Penderfyniadau

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

18/07/2013 - Motion to approve the Assembly Commission’s Official Languages Scheme

Dechreuodd yr eitem am 15.55

NDM5297 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


04/10/2012 - Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44

Dechreuodd yr eitem am 15:02

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Cafodd y gwelliannau eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodwyd yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1. Cyfieithu Cofnodion o Drafodion y Cynulliad

1, 5

 

2. Cyhoeddi Cofnodion o Drafodion y Cynulliad

9

 

3.Penodi Swyddog Cyfrifol

6

 

4. Ystyr y Ddarpariaeth

2

 

5. Darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys yn y Cynllun

10, 11, 12

 

6.Gwasanaethau a ddarperir o dan y Cynllun

7, 8

 

7. Ymgynghori ar y Cynllun

3, 4

 


Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

1

36

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

0

48

54

Gwrthodwyd gwelliant 9.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

32

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd gwelliant 12.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd
gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

 

 

 


04/10/2012 - Stage 4 Standing Order 26.47 Motion to approve the National Assembly for Wales (Official Languages) Bill

Dechreuodd yr eitem am 16:01

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os cytunir ar y cynnig:

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


23/05/2012 - Financial Resolution in relation to the National Assembly for Wales (Official Languages) Bill

Dechreuodd yr eitem am 14:37

NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


17/05/2012 - Motion to agree the general principles of the National Assembly for Wales (Official Languages Bill)

Dechreuodd yr eitem am 15:06.

 

NDM4984 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).

 

Gosodwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Ionawr 2012.

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gerbron y Cynulliad ar 4 Mai 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.