Penderfyniadau

NDM6251 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

09/03/2017 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.07

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6251 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn;

2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy'n hyrwyddo iechyd a lles o'r crud.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu data a'r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:

a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16 oed;

b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion; ac

c) ailwerthuso cymorth iechyd meddwl amenedigol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

36

55

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

11

55

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2:

'a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3. Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Dileu pwynt 3c) a rhoi yn ei le:

'monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

6

20

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ar ddiwedd pwynt 3, ychwanegu is-bwyntiau newydd:

'ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i'r afael â gordewdra;

sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6251 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod sicrwydd o gartref, gofal iechyd, addysg a bod yn ddiogel gartref, yn ddiogel yn yr ysgol ac yn ddiogel yn y gymuned yn adeiladu seiliau cryf ar gyfer datblygiad iach pob plentyn ac yn gresynu at effaith toriadau i fudd-daliadau tai ar allu tai cymdeithasol i ddarparu sicrwydd o gartref i blant;

2. Yn nodi pwysigrwydd gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd plant, sy'n hyrwyddo iechyd a lles o'r crud a pharhau â chymorth addas ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl wrth i blentyn dyfu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r broses o gasglu data a'r ddealltwriaeth o iechyd plant yng Nghymru drwy:

a) ehangu arolygon profiadau canser i gasglu data ar gyfer plant o dan 16 oed;

b) cynnal gwaith ymchwil i fwlio gan gyfoedion;

c) monitro cynnydd y cymorth iechyd meddwl amenedigol newydd er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru ar gyfer teuluoedd sy'n agored i niwed.

d) ystyried sut y gall ysgolion helpu i greu amgylcheddau i fynd i'r afael â gordewdra; ac

e) sicrhau y gall pob ysgol gynnig cyfleusterau ardderchog ar gyfer chwaraeon.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

11

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.