Penderfyniadau
NDM6252 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
09/03/2017 - Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6252 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effaith ei phenderfyniad i dorri
cyllid Cronfa'r Teulu, a naill ai gwyrdroi'r toriadau i Gronfa'r Teulu, neu
sefydlu dull o ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i deuluoedd incwm isel
sydd â phlant anabl i o leiaf y lefelau isaf a ddarperid yn flaenorol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:
a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth
£22m, i helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth
Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd
sy'n magu plant anabl neu ddifrifol wael.
b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid
wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.
c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo
grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael
gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at
gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr
2016.
2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael,
sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo
teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.
3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a'r
cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant anabl neu
ddifrifol wael.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
27 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a
Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i
Gronfa'r Teulu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
27 |
27 |
1 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6252 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
1. Yn nodi'r cyllid canlynol gan Lywodraeth Cymru:
a) cynllun grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy'n werth £22m, i
helpu cyrff y trydydd sector i gyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru
ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, sy'n cynnwys cynorthwyo teuluoedd sy'n magu
plant anabl neu ddifrifol wael.
b) rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n werth £42.5m, gan gynnwys £3m o gyllid
wedi'i glustnodi ar gyfer teuluoedd anabl.
c) £2.2m o gyllid bob blwyddyn i Gyngor ar Bopeth Cymru i gynorthwyo
grwpiau a dargedir, gan gynnwys teuluoedd â phlant anabl, a'u helpu i gael
gafael ar y budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn wedi arwain at
gyfanswm o £3.3m o fudd-daliadau ychwanegol rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr
2016.
2. Yn cydnabod bod Cronfa'r Teulu wedi cael uchafswm y grant sydd ar gael,
sef £1.5m, ynghyd â chyllid ychwanegol o £400,000 eleni, i barhau i gynorthwyo
teuluoedd ac i addasu ei model ariannu at y dyfodol.
3. Yn croesawu'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) wedi'i chael o ran cryfhau hawliau gofalwyr a'r
cymorth a roddir iddynt, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am blant anabl neu
ddifrifol wael."
4. Yn nodi bod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a
Llywodraeth y DU, mewn perthynas â Lloegr, i gyd wedi cynnal eu cyllid i
Gronfa'r Teulu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
17 |
10 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.