Penderfyniadau
NDM6210 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
09/03/2017 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.04
NDM6210
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1 Yn nodi bod tua 40 y
cant o'r gweithlu sy'n cael eu cyflogi yn yr 'Economi Sylfaenol' yn cyflenwi
nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel seilwaith; cyfleustodau; prosesu bwyd,
manwerthu a dosbarthu; ac iechyd, addysg a gofal.
2 Yn cydnabod bod y
sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod
ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a
gwasanaethau lleol.
3 Yn gresynu fod llawer
o'r sectorau o fewn yr Economi Sylfaenol yn nodedig am swyddi â thâl isel ac
ansicrwydd.
4 Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatblygu strategaeth i wneud yn fawr o effaith yr 'Economi Sylfaenol'
ledled Cymru fel rhan o'i gwaith ar ddatblygu strategaeth economaidd newydd,
gan gynnwys mesurau i wella amodau cyflogaeth yn y sectorau hynny.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.