Penderfyniadau

P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

12/07/2012 - Debate on Petitions Committee's Report on Control of Noise from Wind Turbines

Dechreuodd yr eitem am 16.38

 

NDM5036 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Reoli Swn Tyrbinau Gwynt, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


03/05/2012 - P-04-329 Control of noise nuisance from wind - discussion of site visits and evidence given on 28 February

Cytunodd y Pwyllgor i gynhyrchu adroddiad byr ar reoli sŵn o dyrbinau gwynt, ac i wneud cais i gael trafodaeth am y pwnc yn y Cyfarfod Llawn.