Penderfyniadau
NDM6223 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
02/02/2017 - Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol
da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy.
2. Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud
cyfraniad hanfodol o ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal
cymdeithasol ac na chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn
nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.
3. Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae
rhan hanfodol o ran darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i
ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal mewn ysbyty.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned ac
archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan wasanaethau gofal
iechyd a gofal cymdeithasol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl
i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai
ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y
gymuned ehangach.
Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a
all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau
waethygu neu wella.
Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull
gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru;
b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a
wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac
c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal
cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:
ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
o ran lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant gofalwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6223 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol
da yn chwarae rhan hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran lleihau'r
galw diangen am ofal cymdeithasol.
2. Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr
di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
3. Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y
gallai ddigwydd mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac
yn y gymuned ehangach.
4. Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o
leoliadau a all chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i
gyflyrau waethygu neu wella.
5. Yn croesawu:
a) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull
gweithredu cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws Cymru;
b) y buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a
wnaed yn bosib drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18; ac
c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal
cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion seibiant
gofalwyr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i
ddiwygio.