Penderfyniadau
NDM6220 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
02/02/2017 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM6220 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y
gaeaf 2016-17, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.