Penderfyniadau

SL(5)045 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

01/02/2017 - Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017

Dechreuodd yr eitem am 16.57

 

NDM6219 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


18/01/2017 - SL(5)045 - The Welsh Language Standards (No. 6) Regulations 2017

4.1a Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac ymateb Llywodraeth Cymru.

4.1b Nododd yr ohebiaeth gan Gymdeithas yr Iaith a gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynghylch y safonau iaith.

4.1c Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad.