Penderfyniadau
NDM6113 Dadl: Mynd i’r Afael â Throseddau Casineb – Cynnydd a Heriau
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
18/10/2016 - Debate: Tackling Hate Crime - Progress and Challenges
Dechreuodd yr eitem am 17.27
NDM6113 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi'r cynnydd sydd
wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â
Throseddau Casineb.
2. Cydnabod, yn
sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau
casineb.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi
argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n
cynnwys:
a) bod angen gwneud
mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a
hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud; a
b) dylid gwneud mwy
i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol
ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
NDM6113 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Nodi'r cynnydd
sydd wedi'i wneud drwy Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynd i'r Afael â
Throseddau Casineb.
2. Cydnabod, yn
sgil digwyddiadau diweddar, yr heriau parhaus sy'n bodoli o ran troseddau
casineb.
Yn nodi
argymhellion allweddol y 'Prosiect Ymchwil Trosedd Casineb Cymru Gyfan', sy'n cynnwys:
a) bod angen gwneud
mwy i ennyn hyder dioddefwyr a thystion i roi gwybod am ddigwyddiadau casineb a
hyrwyddo'r farn mai rhoi gwybod am gasineb yw'r peth iawn i'w wneud; a
b) dylid gwneud mwy
i sicrhau y caiff y rhai sy'n cyflawni troseddau casineb eu trin yn effeithiol
ac y dylid sicrhau bod dulliau adferol ar gael yn fwy eang yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.