Penderfyniadau

NDM6109 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

06/10/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 16.21

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6109 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirymu'r fenter 'hawl i brynu'.

2. Yn cydnabod bod 130,000 o deuluoedd wedi cael cyfle i brynu eu tŷ cyngor eu hunain ers i'r polisi 'hawl i brynu' gael ei gyflwyno yng Nghymru ym 1980, a bod angen ymddiried ym mhobl Cymru i benderfynu drostynt eu hunain ynghylch perchnogaeth tai.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod bod 'hawl i brynu' yn cynnig cyfle gwerthfawr i bobl brynu eu cartrefi eu hunain.

4. Yn credu y dylai'r targed blynyddol ar gyfer adeiladu tai fod o leiaf 14,000 o dai bob blwyddyn erbyn 2020, yn dilyn argymhellion Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn ei Rhaglen Lywodraethu: 2015 i 2020.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod pobl yn fwy tebygol o allu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os yw'r economi yn gryfach, os yw cyflogaeth yn fwy sicr a bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud mwy i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

1

0

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod nad perchnogaeth cartref yw'r unig opsiwn, ac y dylai cartrefi cymdeithasol gael yr un statws â pherchnogaeth cartref.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

6

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y gallai ailddosbarthu benthyciadau cymdeithasau tai fel dyled sector cyhoeddus gael effaith andwyol ar dargedau adeiladu tai, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan gynnwys deddfu os oes angen, i sicrhau nad yw hyn yn cyfyngu ar allu cymdeithasau tai i gyllido adeiladu cartrefi newydd neu welliannau i gartrefi yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

6

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6109 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirymu'r fenter 'hawl i brynu'.

2. Yn credu bod pobl yn fwy tebygol o allu bod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain os yw'r economi yn gryfach, os yw cyflogaeth yn fwy sicr a bod gwasanaethau cyhoeddus yn gwneud mwy i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.

3. Yn cydnabod nad perchnogaeth cartref yw'r unig opsiwn, ac y dylai cartrefi cymdeithasol gael yr un statws â pherchnogaeth cartref.

4. Yn credu y gallai ailddosbarthu benthyciadau cymdeithasau tai fel dyled sector cyhoeddus gael effaith andwyol ar dargedau adeiladu tai, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu, gan gynnwys deddfu os oes angen, i sicrhau nad yw hyn yn cyfyngu ar allu cymdeithasau tai i gyllido adeiladu cartrefi newydd neu welliannau i gartrefi yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

6

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.