Penderfyniadau
NDM6096 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
22/09/2016 - Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am
15.26
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6096 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi pwysigrwydd
aelodaeth lawn o farchnad sengl Ewropeaidd i economi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
40 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael
mynediad i Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth
Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU
adael yr UE.
3. Yn croesawu'r diddordeb mewn sefydlu cytundebau
masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
6 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6096
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pa mor bwysig ydyw i economi Cymru gael
mynediad i Farchnad Sengl yr UE.
2. Yn galw am eglurder o ran safbwynt Llywodraeth
Cymru ynghylch caniatáu i bobl symud yn rhydd rhwng y DU a'r UE, ar ôl i'r DU
adael yr UE.
3. Yn croesawu'r diddordeb mewn sefydlu cytundebau
masnach newydd rhwng y DU a gwledydd eraill ar draws y byd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen orau i Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
7 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.