Penderfyniadau
NDM6027 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
14/07/2016 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.47
NDM6027
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Lee Waters (Llanelli)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar raglenni Saesneg
ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd diwethaf.
2.
Yn credu bod gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran adlewyrchu bywydau,
uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.
3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar
gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd
Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i
amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos
a'r dyfodol pellach.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.