Penderfyniadau

NDM6058 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

07/07/2016 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

Dechreuodd yr eitem am 15.50

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM6058
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn credu bod gan gwmni dur Tata ym Mhort Talbot well gobaith o oroesi yn dilyn Brexit.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

43

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

14

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

 

Gwelliant 4 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

2

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian presennol yr UE i hyrwyddo cynigion Plaid Cymru, yn benodol Cronfa Fuddsoddi Strategol Ewrop fel y gall y gwaith ynni adnewyddadwy newydd gael ei adeiladu ar safle TATA ym Mhort Talbot i fynd i'r afael â'r mater o gostau ynni uchel, a Horizon 2020, fel y gall canolfan ymchwil a datblygu dur gael ei sefydlu ar Gampws Arloesi Prifysgol Abertawe i wella cyfleoedd busnes TATA UK.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

10

27

47

Gwrthodwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

1

2

47

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

9

5

48

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM6058
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.   Yn nodi pa mor bwysig ydyw i Tata UK gael mynediad i'r Farchnad Sengl.

 

2. Yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ganfod ffyrdd o gefnogi holl ddiwydiant dur Cymru.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i olynydd Tata os oes angen hyn o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

4. Yn gresynu at benderfyniad UKIP i bleidleisio yn erbyn cynigion Moderneiddio'r Comisiwn Ewropeaidd yn Senedd Ewrop - mesurau a fyddai wedi arwain at gostau llawer uwch yn cael eu codi ar ddur o Tsieina sy’n cael ei lwytho ar farchnadoedd Ewrop.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

5

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.