Penderfyniadau
NDM6032 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
23/06/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am
16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6032 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rôl y mae llywodraeth leol yn ei
chwarae o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus i gymunedau ledled Cymru.
2. Yn nodi â phryder yr ansicrwydd y mae diffyg
eglurder ynghylch diwygio llywodraeth leol yn ei gael o ran darparu
gwasanaethau effeithiol.
3. Yn cydnabod bod angen gwneud mwy i fynd i'r
afael â difaterwch pleidleiswyr yng Nghymru, o gofio bod nifer y bobl a wnaeth
fwrw pleidlais yn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2012 yn isel, sef
cyfartaledd o 38.9 y cant, a oedd bedwar y cant yn is na'r nifer a
bleidleisiodd yn yr etholiadau lleol yn 2008.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu amserlen
dros dro ar gyfer ei chynlluniau i ddiwygio awdurdodau lleol Cymru, ac i gymryd
rhan mewn proses ymgynghori gadarn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
5 |
7 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.