Penderfyniadau
NDM6029 - Dadl Plaid Cymru
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
23/06/2016 - Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am
15.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6029 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r heriau i'r gwasanaeth iechyd o ran
gofalu am boblogaeth hŷn.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) symud ymlaen gyda mwy o integreiddio rhwng
iechyd a gofal cymdeithasol; a
b) cynyddu nifer y meddygon teulu, gan ganolbwyntio
ar recriwtio i gymunedau gwledig ac ardaloedd o amddifadedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
4 |
11 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.