Penderfyniadau

NDM6020 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

16/06/2016 - Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.06

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM6020

Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Cefnogir gan:

David Melding (Canol De Cymru) R

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

9

53

Derbyniwyd y cynnig.