Penderfyniadau
NDM6021 - Dadl Ceidwadwyr Cymreig
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
16/06/2016 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am
16.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6021 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm
pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn
Ffrainc ar hyn o bryd.
2. Yn cydnabod y rôl y gallai rhan Cymru yn y bencampwriaeth ei chwarae o ran
hybu cyfranogiad mewn chwaraeon, gwella lefelau iechyd y cyhoedd a chreu
etifeddiaeth barhaus ar gyfer ein hathletwyr elitaidd.
3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg
Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran
iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael
eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod
dros eu pwysau neu'n ordew.
4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru
weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio
digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac wedi
cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi
mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
10 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.