Penderfyniadau

CLA668 - Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

02/03/2016 - Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016

Dechreuodd yr eitem am 15.01

NDM5980 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.