Penderfyniadau
CLA578 - Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
07/10/2015 - Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 – i'w gwneud o dan Adran 7 o'r Ddeddf
Dechreuodd yr eitem am 17.45
NDM5833 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Trawsblannu Dynol (Deunydd Perthnasol a Eithrir) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio
yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.