Penderfyniadau
CLA551 - Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru) 2015
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
08/07/2015 - Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.08
NDM5803 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd
a Mynediad) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.