Penderfyniadau

CLA544 - Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

01/07/2015 - Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chefnogi Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015

Dechreuodd yr eitem am 17.31

NDM5795 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015  yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin  2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.