Penderfyniadau
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
21/01/2015 - The Government of Wales Act 2006 (Amendment) Order 2015
Dechreuodd yr eitem am 15.38
NDM5667 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 25.15:
Yn cymeradwyo y fersiwn drafft o Orchymyn Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2015.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm
Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.