Penderfyniadau

Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

21/05/2015 - Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith

Dechreuodd yr eitem am 15.10

NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


18/03/2015 - Draft Report on Assisting Young People into Work

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.


27/02/2015 - Draft Report on Assisting Young People into Work

7.1 Cytunodd y Pwyllgor i edrych ar yr Adroddiad Drafft ar Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith yn y cyfarfod ffurfiol nesaf.


13/11/2014 - Inquiry into Assisting Young People into Work - Session 5

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gyngor Abertawe a chyngor sir Fynwy.

 

Cytunodd sir Fynwy i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ei waith gydag ysgolion.

 

Cytunodd Abertawe i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar yr adroddiad Arad a’r fethodoleg Kafka.