Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyllogaeth
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
18/03/2015 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Small Business Enterprise and Employment Bill (Memorandum No. 4): Amendment to the Employment Rights Act 1996 in relation to the protection of whistle-blowers in the NHS
Dechreuodd yr eitem am 15.06
NDM5722 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth, sy'n
ymwneud â gwahardd cyflogwr yn y GIG rhag gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sydd
wedi chwythu'r chwiban o'r blaen ac sy'n darparu rhwymedïau, gan gynnwys
dyfarnu iawndal, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14/01/2015 - Legislative Consent Motion on the Small Business, Enterprise and Employment Bill - public sector exit payments (Supplementary Legislative Consent Memorandum - Memorandum No. 3)
Dechreuodd yr eitem am 15.32
NDM5656 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n
ymwneud â thaliadau ymadael y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14/01/2015 - Legislative Consent Motion on the Small Business, Enterprise and Employment Bill - amendment in relation to Landlord and Tenant Act 1954 (Supplementary Legislative Consent Memorandum - Memorandum No. 2)
Dechreuodd yr eitem am 15.28
NDM5655 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y gwelliannau i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud
â thenantiaethau busnesau yn y cartref, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd
2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol Diwygiedig (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
26/11/2014 - Legislative Consent Motion on the Small Business, Enterprise and Employment Bill - provisions relating to education and training
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM5627 Julie James (Gorllewin
Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter
a Chyflogaeth sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant, i'r graddau y maent yn dod
o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
19/11/2014 - Legislative Consent Memorandum on the Small Business, Enterprise and Employment Bill - provisions relating to export support
Dechreuodd yr eitem am 14.29
NDM5617 Edwina Hart
(Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6,
yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach,
Menter a Chyflogaeth sy'n ymwneud â chymorth allforio, i'r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.