Penderfyniadau

Dadl y Llywodraeth - y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

10/03/2016 - Dadl ar Setliad yr Heddlu 2016-17

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5989 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

9

5

54

Derbyniwyd y cynnig.

10/03/2016 - Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2016-17

Dechreuodd yr eitem am 14.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5988 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

5

21

54

Derbyniwyd y cynnig.

20/01/2016 - Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014 - 2015

Dechreuodd yr eitem am 17.59

NDM5919 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y toriad arfaethedig o 68 y cant mewn cyllid craidd i Anabledd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth ddichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5919 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.

3. Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-2013.

4. Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014.

5. Yn galw ar y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

13/01/2016 - Debate on The Older People's Commissioner for Wales' Impact and Reach Annual Report 2014-15

Dechreuodd yr eitem am 16.32

NDM5909 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad 2014-15 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cyfeiriadau at hawliau pobl hŷn yn yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5909 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad 2014-15 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.

2. Yn nodi cyfeiriadau at hawliau pobl hŷn yn yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Derbyniwyd y cynnig wedi’I ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

25/11/2015 - Debate on Affordable Housing Targets

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5884 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd diweddaraf tuag at gyflawni targed uwch Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad hwn, a bod 91 y cant o'r targed hwn wedi'i gyflawni.

Yr ystadegau diweddaraf ar y ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru 2014-15 (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r angen i ddod ag argyfwng tai Cymru i ben ac yn gresynu at y ffaith nad oes unrhyw gysylltiad rhwng targed tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru a nifer y bobl sydd angen tai.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

33

48

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gwaith ymchwil yr Athro Holmans sy'n nodi os bwriedir cwrdd â'r angen a'r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol, mae angen dychwelyd i gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.

Adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru - 'Future Need and Demand for Housing in Wales' (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid dyblu'r targed ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

33

49

Gwrthodwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5884 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnydd diweddaraf tuag at gyflawni targed uwch Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad hwn, a bod 91 y cant o'r targed hwn wedi'i gyflawni.

2. Yn nodi gwaith ymchwil yr Athro Holmans sy'n nodi os bwriedir cwrdd â'r angen a'r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol, mae angen dychwelyd i gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio

18/11/2015 - Debate on the Children's Commissioner for Wales' Annual Report 14-15

Dechreuodd yr eitem am 15.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5873 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol o Gomisynydd Plant Cymru gan Dr Mike Shooter y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros benodi a chyllido y Comisiynydd Plant i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lwydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd yn 'dal i bryderu ynghylch y diffyg cynnydd parhaus mewn meysydd allweddol o CAMHS, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau ymyrraeth gynnar; mynediad at CAMHS arbenigol cymunedol, gan gynnwys therapïau seicolegol; protocolau asesu ac argaeledd triniaeth a chymorth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig; darpariaeth mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid; a lefel yr adnoddau a ddyrannwyd i CAMHS'.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed fel mater o frys.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd Gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5873 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2014-15.

Yn nodi bod Swyddfa'r Comisiynydd yn 'dal i bryderu ynghylch y diffyg cynnydd parhaus mewn meysydd allweddol o CAMHS, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau ymyrraeth gynnar; mynediad at CAMHS arbenigol cymunedol, gan gynnwys therapïau seicolegol; protocolau asesu ac argaeledd triniaeth a chymorth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig; darpariaeth mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid; a lefel yr adnoddau a ddyrannwyd i CAMHS'.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen i wella Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed fel mater o frys.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio

04/11/2015 - Debate on the Equality and Human Rights Commission Wales Annual Review 2014 - 2015

Dechreuodd yr eitem am 17.00

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.

Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

13/05/2015 - Debate on The Liver Disease Delivery Plan

Dechreuodd yr eitem am 15.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5753 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith y gallai'r broses o gyflwyno cynllun cyflenwi clefyd yr iau gael ei llesteirio gan yr heriau ariannol y mae byrddau iechyd lleol yn eu hwynebu o ganlyniad i'r toriadau cyllidebol mwyaf erioed gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

9

29

47

Gwrthodwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

2

1

47

Derbyniwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5753 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, fframwaith tan 2020 ar gyfer GIG Cymru i wella gwasanaethau clefyd yr afu.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi prisiau uned sylfaenol ar gyfer alcohol ar waith cyn gynted ag y bo modd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio

29/04/2015 - Debate on the Annual Report on Equality 2013-2014

Dechreuodd yr eitem am 15.26

NDM5743 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn atal menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn y DU y llynedd.

Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE 100 yn fenywod.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

6

40

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau i sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

28

40

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg i Raddedigion a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau rhyw a helpu i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5743 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2013-2014

2. Yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â rhwystrau diwylliannol a allai fod yn atal menywod o leiafrifoedd ethnig rhag rhoi gwybod am drais yn y cartref.

3. Yn nodi â phryder bod nifer yr achosion gwrth-semitig wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yn y DU y llynedd.

4. Yn croesawu ffigurau sy'n dangos bod 23.5 y cant o aelodau bwrdd cwmnïau FTSE 100 yn fenywod.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad cynnydd am sut y bydd mesurau i sicrhau mynediad cyfartal at ofal iechyd yn cael eu cyflawni ar gyfer pobl sydd wedi colli eu clyw neu eu golwg.

6. Yn galw am astudiaeth d dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i ymgorffori hyfforddiant ymwybyddiaeth ar sail rhyw ym mhob hyfforddiant proffesiynol Tystysgrif Addysg i Raddedigion a Meistr mewn Addysg a Gyrfaoedd i fynd i'r afael â stereoteipiau rhyw a helpu i greu amgylcheddau dysgu sy'n ymwybodol o ryw ar draws ysgolion Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

22/04/2015 - Dadl ar Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.48

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM3739 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys, a

b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys neu ofal brys.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn is-bwynt b), dileu 'cyflym' a rhoi 'gwell' yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod mynediad at wasanaethau brys yng Nghymru wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i israddio ysbytai, perfformiad gwasanaeth ambiwlans gwael a'r toriadau mwyaf erioed i gyllideb y GIG.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

29

46

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans i gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar wasanaethau brys yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

8

0

46

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am sefydlu Canolfan Gofal Brys yn Sir Drefaldwyn i ddod â gofal yn nes at ein cymunedau a lleihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yn Wrecsam a'r Amwythig, oherwydd y nifer cynyddol o gleifion sy'n teithio'n bell i gael mynediad at ofal o ganlyniad i ddiffyg cynllunio cydgysylltiedig rhwng byrddau iechyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

8

25

46

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am fwy o fuddsoddi mewn ysbytai bwthyn a gofal yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3739 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) bod gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys,

b) bod y gwasanaeth yn sicrhau y caiff cleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys neu ofal brys,

c) yn gresynu at fethiant parhaus y gwasanaeth ambiwlans i gyrraedd ei dargedau ar gyfer amseroedd ymateb a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar wasanaethau brys yng Nghymru,

d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys,

e) yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant; ac

f) yn galw am fwy o fuddsoddi mewn ysbytai bwthyn a gofal yn y gymuned, i helpu i sicrhau gofal o ansawdd uchel yn y gymuned er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau brys.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

18/03/2015 - Dadl ar Gyflog Cyfartal

Dechreuodd yr eitem am 16.26

NDM5721 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog Cyfartal fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu cofnodion cymharol ym 1997.

Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000.

Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5721 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog Cyfartal fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau.

2. Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.

3. Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu cofnodion cymharol ym 1997.

4. Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

18/03/2015 - Debate on The Care and Social Service Inspectorate Wales (CSSIW) Annual Report 2013 - 2014

Dechreuodd yr eitem am 15.46

NDM5720 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.

Derbyniwyd Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.

Derbyniwyd Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.

Derbyniwyd Gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5720 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14.

2. Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

3. Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru.

4. Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

25/02/2015 - Debate on The Police Settlement 2015-16

Dechreuodd yr eitem am 16.00

NDM5699 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2015-2016 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

04/02/2015 - Debate: The Review of Independent Living Adaptations

Dechreuodd yr eitem am 17.24

NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.

2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015.

3. Yn cefnogi gweithredu gan Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd angen tai wedi'u haddasu.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;

c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a

d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.

Derbyniwyd Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod y profion modd ar gyfer addasiadau yn annheg ac yn hen ffasiwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

11

32

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place Like Home.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5682 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau addasiadau a sut maent yn helpu pobl i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain am gyhyd â phosibl.

2. Yn nodi canfyddiadau'r Adolygiad o Addasiadau ar gyfer Byw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2015.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol i lunio siarter cwsmeriaid yn amlinellu ymrwymiadau mewn perthynas â gwasanaethau addasiadau;

b) gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai cymdeithasol i nodi safonau ar gyfer amseroedd darparu a sicrhau eu bod yn cael eu bodloni gan bob awdurdod lleol;

c) archwilio gwasanaethau addasiadau i ganfod arfer gorau a'i roi ar waith; a

d) rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro boddhad cwsmeriaid a chanlyniadau tymor hwy.

4. Yn nodi argymhellion allweddol yr ymgyrch Home Truths gan Leonard Cheshire Disability a'r adroddiad No Place Like Home.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eithrio mân addasiadau o brofion modd, fel yr argymhellir yn yr adolygiad.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

28/01/2015 - Debate: The Welsh Ministers' Report on Equality 2014

Dechreuodd yr eitem am 17.07

NDM5674 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2014.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried materion trawsryweddol ehangach o fewn dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau pellach i fynd i'r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen am weithio mewn partneriaeth yn well er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y tensiynau rhwng cymunedau a gwella cydlyniant yn dilyn yr ymosodiadau brawychwyr ym Mharis.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed, ond yn cydnabod bod angen gwneud mwy.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dioddefwyr troseddau casineb yn gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth cynhwysfawr yn rhwydd.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynyddu'r amrywiaeth o gyrff yng Nghymru sy'n gwneud penderfynaidau.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod rhaid i amcanion cydraddoldeb hefyd gadarnhau'r hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng ieithoedd swyddogol Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ellir sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru oni bai bod cyfoeth wedi'i rannu'n deg ledled y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

13

51

Derbyniwyd y gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5674 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried materion trawsryweddol ehangach o fewn dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

2. Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2014.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau pellach i fynd i'r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.

4. Yn cydnabod yr angen am weithio mewn partneriaeth yn well er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y tensiynau rhwng cymunedau a gwella cydlyniant yn dilyn yr ymosodiadau brawychwyr ym Mharis.

5. Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed, ond yn cydnabod bod angen gwneud mwy.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dioddefwyr troseddau casineb yn gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth cynhwysfawr yn rhwydd.

7. Yn gresynu mai ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynyddu'r amrywiaeth o gyrff yng Nghymru sy'n gwneud penderfynaidau.

8. Yn credu bod rhaid i amcanion cydraddoldeb hefyd gadarnhau'r hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng ieithoedd swyddogol Cymru.

9. Yn credu na ellir sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru oni bai bod cyfoeth wedi'i rannu'n deg ledled y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd cynnig wedi’i ddiwygio.

28/01/2015 - Debate: The Older People's Commissioner for Wales' Annual Report 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16.32

NDM5672 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2013/14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r cynnydd yng nghyfran gwaith achos y Comisiynydd Pobl Hŷn sy'n ymwneud â gofal iechyd.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod yr Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad yn nodi bod tri awdurdod lleol yn methu â chyrraedd eu hamserlenni statudol ar gyfer darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn mewn perthynas â datblygu'r Datganiad Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5672 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2013/14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.

2.Yn nodi'r cynnydd yng nghyfran gwaith achos y Comisiynydd Pobl Hŷn sy'n ymwneud â gofal iechyd.

3.Yn gresynu at y ffaith bod yr Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad yn nodi bod tri awdurdod lleol yn methu â chyrraedd eu hamserlenni statudol ar gyfer darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl.

4.Yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn mewn perthynas â datblygu'r Datganiad Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

14/01/2015 - Debate: Together for Mental Health Annual Report 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16.25

NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol (2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Ionawr 2015.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymryd camau brys i wella mynediad i wasanaethau CAMHS; a

b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at effaith diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol (2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6 Ionawr 2015.

2. Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cymryd camau brys i wella mynediad i wasanaethau CAMHS; a

b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.

4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.

6. Yn gresynu at effaith diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.

8. Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

14/01/2015 - Debate: The Local Government Settlement 2015-16

Dechreuodd yr eitem am 15.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5658 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2015-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

5

22

54

Derbyniwyd y cynnig.

03/12/2014 - Debate: Substance Misuse Strategy Annual Report 2014

Dechreuodd yr eitem am 16.57

NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4 ar gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar sail gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

10

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.   Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.

2.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.

3.   Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.

4.   Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

03/12/2014 - Debate: The Impact of Procurement Policy in Wales

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn nodi:

a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;

b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod:

a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r farchnad lafur;

b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o swyddi newydd.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau yn rheolau caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector cyhoeddus i gwmnïau o Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

4

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i gwmnïau sydd â phencadlys yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus gael eu bwndelu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn nodi:

a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;

b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.

2. Yn cydnabod:

a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r farchnad lafur;

b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o swyddi newydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.

4. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus gael eu bwndelu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

26/11/2014 - Debate: The Impact of the UK Government's Welfare Reforms in Wales

Dechreuodd yr eitem am 17.22

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a

b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt a) a rhoi yn ei le:

y mabwysiadwyd y diwygiadau lles a weithredwyd gan Llywodraeth y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau ac i sicrhau na all unrhyw un ennill mwy ar fudd-daliadau nag y mae'r teulu cyffredin yn ennill drwy fynd allan i weithio; a

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai nod credyd cynhwysol yw lleihau tlodi, drwy wneud i waith dalu, a helpu hawlwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

11

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai rhewi budd-dal plant yn niweidiol i'r nod o ddileu tlodi plant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

11

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5631 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a

b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer gweithredu Credyd Cynhwysol.

2. Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.

3. Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

19/11/2014 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16.13

NDM5618 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2013-14.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12/11/2014 - Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 17.14

NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;

b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;

c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r angen:

a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr;

b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog; ac

c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5613 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;

b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;

c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

2. Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'

3. Yn nodi'r angen:

a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i gyn-filwyr;

b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog; ac

c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

05/11/2014 - Debate: The Welsh Language Commissioner's Annual Report 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 17.12

NDM5609 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2013-14, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 26 Medi 2014, sy'n tynnu sylw at y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

22/10/2014 - Debate: Future of Devolution for Wales

Dechreuodd yr eitem am 16.15

NDM5605

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

2. Yn galw am gyd-drafodaethau sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y mae’n debygol o fynd yn y dyfodol.

3. Yn galw ar y trafodaethau hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) sicrhau bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban;

b) datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol;

c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; a

d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun.

5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru.

6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol.

8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk 2.

9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14/10/2014 - Debate: The Equality and Human Rights Commission Wales Annual Report 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 17.16

NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r Bil Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014 sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r ffaith bod gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod parhau i fod yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r rôl sylfaenol y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'.

2. Yn croesawu'r Bil Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014 sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.

3. Yn croesawu'r ffaith bod gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.

5. Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.

6. Yn gresynu nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

7. Yn credu bod parhau i fod yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.

8. Yn croesawu'r rôl sylfaenol y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

01/10/2014 - Debate: Public Service Broadcasting

Dechreuodd yr eitem am 16.08

NDM5581 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod pwysigrwydd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol darlledwyr iaith Gymraeg.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu:

a) y dylid creu corff llywodraethu datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC yn y DU;

b) y dylid penodi cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC drwy gytundeb ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; ac

c) y dylai bwrdd Ofcom gynnwys aelod sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynrychioli Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

7

0

40

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid datganoli trwyddedu radio cymunedol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

7

0

40

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom y bwriedir ei gyhoeddi yr haf nesaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rôl y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran cynyddu cyfranogiad yn y broses wleidyddol a'r dylanwad y maent yn ei gael ar fywyd diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau dyfodol yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i'r Cynulliad hwn yn ogystal ag i Senedd y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y dirywiad mewn rhaglennu lleol ar radio masnachol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

0

40

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5581 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.

2. Yn credu y dylid diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol darlledwyr iaith Gymraeg.

3. Yn credu:

a) y dylid creu corff llywodraethu datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC yn y DU;

b) y dylid penodi cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC drwy gytundeb ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; ac

c) y dylai bwrdd Ofcom gynnwys aelod sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynrychioli Cymru.

4. Yn credu y dylid datganoli trwyddedu radio cymunedol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

5. Yn nodi trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom y bwriedir ei gyhoeddi yr haf nesaf.

6. Yn cydnabod y rôl y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran cynyddu cyfranogiad yn y broses wleidyddol a'r dylanwad y maent yn ei gael ar fywyd diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.

7. Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau dyfodol yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

8. Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i'r Cynulliad hwn yn ogystal ag i Senedd y DU.

9. Yn gresynu at y dirywiad mewn rhaglennu lleol ar radio masnachol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

7

0

40

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

24/09/2014 - Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16.57

NDM5568 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2013-14, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Mehefin 2014.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a gynigir yn y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fod yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, y dylai gael ei benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol ac y dylai reoli dangosyddion datblygu cynaliadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ar rwystredigaethau o ran yr ymdrechion i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gaiff ei gynhyrchu ar raddfa gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy ar raddfa gymunedol wrth gyflwyno adroddiad ar y Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi sylw'r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy nad oes unrhyw gyfeiriad at fynd i'r afael â thlodi tanwydd i wella iechyd a chyflawniad addysgol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i adfer y Grŵp Cynghori ar Dlodi Tanwydd gyda chylch gwaith priodol a'r gallu i wneud argymhellion polisi i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau dull mwy integredig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

NDM5568 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2013-14, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 23 Mehefin 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

11/06/2014 - Debate: Improving Mental Health

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl oedolion.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill, ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi nodi problemau difrifol o ganlyniad i brinder gwelyau mewn wardiau gofal aciwt, ac yn nodi y gallai’r prinder hwn arwain at ddefnyddio celloedd yr heddlu yn amhriodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac yn gresynu at y problemau sy’n parhau i godi wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed wedi dirywio’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.   Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

2.   Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl oedolion.

3.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.

4.   Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.

5.   Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.

6.   Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill, ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

7.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

04/06/2014 - Debate: Governance of National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty in Wales

Dechreuodd yr eitem am 17.03

NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.

2. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn credu y byddai mwy o atebolrwydd democrataidd yn arwain at wella’r modd y mae’r parciau cenedlaethol yn cael eu llywodraethu ac yn gwella’r berthynas rhwng awdurdodau’r parciau a’r trefi a’r cymunedau sydd o fewn eu ffiniau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r argymhellion yn ymwneud â pharciau cenedlaethol yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn credu bod angen rhoi pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru.

2. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.

3. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

04/06/2014 - Debate: Improving Primary and Community Care

Dechreuodd yr eitem am 16.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol yng nghyllideb 2014/15.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

11

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn gwelliannau i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a fyddai wedi rhoi terfyn ar yr arfer rheolaidd o slotiau gofal 15 munud ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i roi terfyn ar yr arfer hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ynghylch yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn eu hymgyrch Patients First: Back General Practice.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith y bydd toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb y GIG yn ei gwneud yn fwy anodd sicrhau gwelliannau ac integreiddio gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned a gofal cymdeithasol ymhellach yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

9

29

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod mwy a mwy o feddygon teulu yn nesáu at oed ymddeol, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cynllun clir i gael meddygon teulu newydd yn eu lle.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

2. Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol yng nghyllideb 2014/15.

3. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ynghylch yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn eu hymgyrch Patients First: Back General Practice.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu ledled Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

10

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

21/05/2014 - Debate: Tackling Hate Crimes and Incidents - A Framework for Action

Dechreuodd yr eitem am 16.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5507 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r pryder a fynegwyd gan y Cyngor Cydraddoldeb Hiliol yng Nghyfarfod Fforwm Hil Cymru ar 13 Mawrth 2014 bod materion yn ymwneud â hil yn isel ar yr agenda i Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

24

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

8

46

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol, yn ogystal ag athrawon, teuluoedd a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i atal bwlio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5507 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.   Yn nodi ‘Mynd i’r Afael â Throseddau a Digwyddiadau Casineb: Fframwaith Gweithredu’ a’r Cynllun Cyflawni ategol, a lansiwyd ar 12 Mai 2014.

2.   Yn croesawu bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu cofnodi a chyhoeddi troseddau casineb yn briodol am y tro cyntaf.

3.   Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan gynghorau ysgol a llywodraethwyr ysgol, yn ogystal ag athrawon, teuluoedd a’r gymdeithas ehangach, rôl i’w chwarae i atal bwlio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

0

0

46

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

26/03/2014 - Dadl: Darparu Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 14.58

NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau diogelach i ddinasyddion.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud– a bod cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu gwneud ar sail anghenion y gwasanaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5474 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru i ddarparu cymunedau diogelach i ddinasyddion.

2. Yn nodi gyda phryder y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar griwiau tân ac achub ac effaith hyn ar sicrhau cymunedau mwy diogel.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Tân ac Achub a’r trydydd sector i gynnal gwerthusiad cadarn ar y cyd o ymyriadau diogelwch tân.

4. Yn cydnabod y gwaith hanfodol y mae diffoddwyr tân yn ei wneud– a bod cymunedau Cymru yn dibynnu arnynt am lawer mwy na diffodd tân.

5. Yn credu y dylid cael dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth tân ac achub lle mae penderfyniadau gweithredol strategol yn cael eu gwneud ar sail anghenion y gwasanaeth.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i edrych ar strwythur Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda'r Awdurdodau Tân ac Achub i sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

26/03/2014 - Debate: Tackling Housing Related Anti-Social Behaviour

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael ar bobl ac ar eu hiechyd a’u lles;

2. Yn nodi canfyddiadau ymchwil Llywodraeth Cymru “Wales Anti-Social behaviour: Policy and Practice Review” fel sail ar gyfer gweithredu pellach; ac

3. Yn galw ar sefydliadau perthnasol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i weithio gyda’i gilydd i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf effeithiol pan maent yn canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a chydweithio rhwng asiantaethau.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 2, cynnwys ‘ac argymhellion allweddol’ ar ôl ‘canfyddiadau’

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thai.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng meysydd fel tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona, ac yn credu y byddai modd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai mewn ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn cael eu datganoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5475 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr effaith negyddol y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n ymwneud â thai yn gallu ei chael ar bobl ac ar eu hiechyd a’u lles;

2. Yn credu bod polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fwyaf effeithiol pan maent yn canolbwyntio ar ymyriadau cynnar, atal a chydweithio rhwng asiantaethau;

3. Yn nodi canfyddiadau ac argymhellion allweddol ymchwil Llywodraeth Cymru “Wales Anti-Social behaviour: Policy and Practice Review” fel sail ar gyfer gweithredu pellach;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyrff perthnasol yn y sector cyhoeddus ac yn y trydydd sector yn cydweithio'n fwy effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â thai; a

5. Yn cydnabod y gorgyffwrdd helaeth rhwng meysydd fel tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phlismona, ac yn credu y byddai modd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai mewn ffordd fwy effeithiol pe bai pob un o'r meysydd hyn yn cael eu datganoli.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

19/03/2014 - Dadl: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Dechreuodd yr eitem am 15.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon a godwyd am nifer y biliau fframwaith sy'n cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon a godwyd am nifer yr achlysuron lle y mae proses ddeddfwriaethol safonol y Cynulliad wedi cael ei chwtogi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y duedd ddiweddar o ran biliau fframwaith, a deddfwriaeth llwybr carlam a deddfwriaeth frys, sy'n tanseilio'r gallu i graffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth ac i sicrhau atebolrwydd democrataidd cryf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Bil ar Anghenion Addysgol Arbennig o fewn y flwyddyn nesaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod llwyddiant y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn dibynnu ar Raglen Lywodraethu gynhwysfawr ac ystyrlon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei chyfyngu pan fydd deddfwriaeth y llywodraeth yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

13

58

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

2.Yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Bil ar Anghenion Addysgol Arbennig o fewn y flwyddyn nesaf.

3.Yn cydnabod bod llwyddiant y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn dibynnu ar Raglen Lywodraethu gynhwysfawr ac ystyrlon.

4.Yn nodi bod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei chyfyngu pan fydd deddfwriaeth y llywodraeth yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

13

0

58

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

19/03/2014 - Dadl: Adroddiad y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 14.44

NDM5462 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i annog amgylcheddau gwaith sy'n ystyriol o deuluoedd, ac ystyried canfyddiadau'r adroddiad ynghylch argaeledd gofal plant, amser cyfarfodydd ac awyrgylch cyfarfodydd cyngor.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5462 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi adroddiad y Grŵp Arbenigwyr ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i annog amgylcheddau gwaith sy'n ystyriol o deuluoedd, ac ystyried canfyddiadau'r adroddiad ynghylch argaeledd gofal plant, amser cyfarfodydd ac awyrgylch cyfarfodydd cyngor.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12/03/2014 - Debate: The Second Supplementary Budget 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5433 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-14 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 11 Chwefror 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

21

0

53

Derbyniwyd y cynnig.

04/03/2014 - Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dechreuodd yr eitem am 17.12

NDM5443 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014 i nodi rôl menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod llwyddiannau menywod o Gymru ym myd y campau a’r ffordd y maent yn fodelau rôl cadarnhaol i fenywod a dynion ifanc.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi adroddiad ‘Lle’r Fenyw' gan Chwarae Teg a oedd yn dangos bod y mwyafrif o gyflogwyr yn meddwl y byddai gweithredu pellach gan y llywodraeth, a chymorth gyda gofal plant yn benodol, yn helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn y gweithle ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i ehangu darpariaeth gofal plant fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru. 

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5443 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014 i nodi rôl menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

2. Yn cydnabod llwyddiannau menywod o Gymru ym myd y campau a’r ffordd y maent yn fodelau rôl cadarnhaol i fenywod a dynion ifanc.

3. Yn nodi adroddiad ‘Lle’r Fenyw' gan Chwarae Teg a oedd yn dangos bod y mwyafrif o gyflogwyr yn meddwl y byddai gweithredu pellach gan y llywodraeth, a chymorth gyda gofal plant yn benodol, yn helpu i sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn y gweithle ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i ehangu darpariaeth gofal plant fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru. 

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

04/03/2014 - Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 16.26

NDM5442 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2012-13.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw safonau addysg yng Nghymru wedi gwella, ar y cyfan, a bod:

a) y gyfran o ysgolion uwchradd sydd wedi cael eu brandio yn ‘anfoddhaol’ wedi cynyddu o 14% i 23%;

b) ysgolion rhagorol yn parhau i fod yn lleiafrif bychan; ac

c) bod angen cynnal arolygiadau dilynol ar ddwy ran o dair o ysgolion uwchradd, a hanner yr ysgolion cynradd.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hybu morâl athrawon yn ysgolion Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu argymhelliad Estyn y dylai mynd i’r afael ag effeithiau tlodi fod yn ganolog i gynllunio ysgol-gyfan a bod yn rhaid i’r holl staff ddeall y rôl sydd ganddynt i’w chwarae, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wreiddio ymwybyddiaeth o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ymhlith holl aelodau staff ysgolion i sicrhau y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i liniaru ar effaith tlodi mewn ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn nad yw ‘ysgolion prif ffrwd bob amser yn darparu gwybodaeth o ansawdd da na gwybodaeth amserol i’r UCDau am anghenion dysgu disgyblion’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau monitro mwy unigoledig er mwyn cael ‘darlun clir o alluoedd, anghenion a chynnydd blaenorol disgyblion’.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod ‘Llai na hanner ysgolion uwchradd yn dda neu’n well, ac mae’r gyfran sy’n anfoddhaol wedi cynyddu o un o bob saith ysgol i un o bob pedair’.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai arweinwyr ac athrawon rhagorol yw’r allwedd i godi safonau mewn ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod safonau yn cael eu codi mewn modd mwy cynaliadwy pan fydd ysgolion yn cydweithio yn hytrach na chystadlu.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5442 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2012-13.

2. Yn gresynu nad yw safonau addysg yng Nghymru wedi gwella, ar y cyfan, a bod:

a) y gyfran o ysgolion uwchradd sydd wedi cael eu brandio yn ‘anfoddhaol’ wedi cynyddu o 14% i 23%;

b) ysgolion rhagorol yn parhau i fod yn lleiafrif bychan; ac

c) bod angen cynnal arolygiadau dilynol ar ddwy ran o dair o ysgolion uwchradd, a hanner yr ysgolion cynradd.

3. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i hybu morâl athrawon yn ysgolion Cymru.

4. Yn croesawu argymhelliad Estyn y dylai mynd i’r afael ag effeithiau tlodi fod yn ganolog i gynllunio ysgol-gyfan a bod yn rhaid i’r holl staff ddeall y rôl sydd ganddynt i’w chwarae, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i wreiddio ymwybyddiaeth o'r Grant Amddifadedd Disgyblion ymhlith holl aelodau staff ysgolion i sicrhau y caiff y cyllid hwn ei ddefnyddio yn y modd mwyaf effeithiol i liniaru ar effaith tlodi mewn ysgolion.

5. Yn gresynu at ganfyddiadau Estyn nad yw ‘ysgolion prif ffrwd bob amser yn darparu gwybodaeth o ansawdd da na gwybodaeth amserol i’r UCDau am anghenion dysgu disgyblion’ ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau monitro mwy unigoledig er mwyn cael ‘darlun clir o alluoedd, anghenion a chynnydd blaenorol disgyblion’.

6. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod ‘Llai na hanner ysgolion uwchradd yn dda neu’n well, ac mae’r gyfran sy’n anfoddhaol wedi cynyddu o un o bob saith ysgol i un o bob pedair’.

7. Yn credu mai arweinwyr ac athrawon rhagorol yw’r allwedd i godi safonau mewn ysgolion.

8. Yn credu bod safonau yn cael eu codi mewn modd mwy cynaliadwy pan fydd ysgolion yn cydweithio yn hytrach na chystadlu.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

19/02/2014 - Debate: The future of our past - new directions for the historic environment in Wales

Dechreuodd yr eitem am 16.34

NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad statudol bod awdurdodau lleol yn llunio rhestr leol o adeiladau sy’n cael eu hystyried yn asedau hanesyddol yn eu hardaloedd drwy unrhyw Fil Treftadaeth yn y dyfodol, ac i ddarparu canllawiau a pholisïau enghreifftiol ar gyfer eu cynlluniau datblygu lleol i ategu hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu categori ar gyfer adeiladau rhestredig sy’n dangos agweddau pwysig ar hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol neu filwrol lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5434 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynnydd Llywodraeth Cymru hyd yma o safbwynt ei Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol ynghyd â'r camau nesaf yn dilyn yr ymgynghoriad ar "dyfodol ein gorffennol".

Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen ag uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi tystiolaeth yn rheolaidd o effaith polisïau treftadaeth ar leihau tlodi yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed i greu Cynghrair Treftadaeth i Gymru neu ymddiriedolaeth cadwraeth treftadaeth genedlaethol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

19/02/2014 - Dadl: Setliad yr Heddlu 2014-15

Dechreuodd yr eitem am 16.11

NDM5435 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12/02/2014 - Debate: The Draft Wales Bill

Dechreuodd yr eitem am 14.35

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y caiff unrhyw bleidleisiau sydd eu hangen ar y cynnig eu gwneud yn syth ar ôl yr eitem.

NDM5426 Lelsey Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU.

Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Deddf Cymru yn y dyfodol ddarparu ar gyfer yr ysgogiadau economaidd sy’n angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i greu swyddi a thwf ac na ddylai pwerau rhannu treth incwm gael eu cyfyngu gan y system ‘cam clo’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5426 Lelsey Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.   Yn croesawu cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU.

2.   Yn credu y dylai Deddf Cymru yn y dyfodol ddarparu ar gyfer yr ysgogiadau economaidd sy’n angenrheidiol i alluogi Llywodraeth Cymru i greu swyddi a thwf ac na ddylai pwerau rhannu treth incwm gael eu cyfyngu gan y system ‘cam clo’.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Am 15.37, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am ddeg munud. Cafodd y gloch ei chanu bum munud cyn ailgynnull ar gyfer trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

29/01/2014 - Debate: The Report of the Williams Commission on Public Service Governance and Delivery

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM5412 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddechrau’r cynnig ac ail-rifo yn unol â hynny:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a

2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r canlynol:

a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd;

b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny;

c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi argymhelliad yr adroddiad i gychwyn y broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gresynu na roddwyd ystyriaeth lawn i uno'r gwasanaethau hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

1

26

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn Williams ond yn credu mai gweithredu Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy fyddai'r dull mwyaf priodol o ethol nifer llai o gynghorwyr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

37

52

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn Williams ac yn credu y dylai unrhyw ad-drefnu ar lywodraeth leol gynyddu atebolrwydd drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cynghorau, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Sunderland, ac fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

36

52

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5412 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a

2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r canlynol:

a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd;

b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny;

c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.

3. Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

4. Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.

5. Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

22/01/2014 - Debate on Ensuring Wider Access to our Heritage and Culture

Dechreuodd yr eitem am 16.51

NDM5401Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd ehangu mynediad i dreftadaeth a diwylliant i bawb, gan annog pobl o bob rhan o gymdeithas i gymeryd rhan a sicrhau bod unrhyw rwystrau i gyfranogi yn cael eu dileu.

2. Nodi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan ein sector treftadaeth a diwylliant i wella mynediad ac i sicrhau y gall bawb yng Nghymru gymeryd rhan mewn gweithgarwch ddiwylliannol, neu gael mynediad i'n safleoedd treftadaeth a chael profiad gwerthfawr.

3. Nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'r gwaith o gryfhau'r dull hwn o weithio drwy ddatblygu proses o weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws bob adran a chyda'r sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru yn ehangach.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r ymgynghoriad ystyrlon, “Dyfodol ein Gorffennol”, ac yn croesawu dylanwad yr ymatebion hynny ar benderfyniad y Gweinidog ynghylch dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau prosesau monitro ac adrodd cyson ar gyfer yr holl gamau a gymerir i annog pobl i ymwneud mwy â threftadaeth a diwylliant ac i gyfrannu mwy atynt, a fydd yn ddigon i ddarparu gwerthusiad cadarn.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau ein bod yn cadw arbenigedd yn ein sefydliadau treftadaeth fel na fyddwn yn colli‘r gallu i ddehongli ein gorffennol yn sgîl colli swyddi.

b) cyflwyno prentisiaethau treftadaeth fel ffordd o sicrhau bod ein dealltwriaeth o’n treftadaeth yn cael ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

13

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn canmol gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd swyddi’r staff yn ddiogel yn y tymor hir.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ymchwilio i’r broses o gael statws elusennol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

10

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau celf a threftadaeth eraill i sicrhau y gellir rhoi benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos yng Nghymru i gyfleusterau eraill.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5401Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd ehangu mynediad i dreftadaeth a diwylliant i bawb, gan annog pobl o bob rhan o gymdeithas i gymeryd rhan a sicrhau bod unrhyw rwystrau i gyfranogi yn cael eu dileu.

2. Nodi'r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan ein sector treftadaeth a diwylliant i wella mynediad ac i sicrhau y gall bawb yng Nghymru gymeryd rhan mewn gweithgarwch ddiwylliannol, neu gael mynediad i'n safleoedd treftadaeth a chael profiad gwerthfawr.

3. Nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'r gwaith o gryfhau'r dull hwn o weithio drwy ddatblygu proses o weithio mewn partneriaeth effeithiol ar draws bob adran a chyda'r sector treftadaeth a diwylliant yng Nghymru yn ehangach.

4. Yn nodi’r ymgynghoriad ystyrlon, “Dyfodol ein Gorffennol”, ac yn croesawu dylanwad yr ymatebion hynny ar benderfyniad y Gweinidog ynghylch dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau prosesau monitro ac adrodd cyson ar gyfer yr holl gamau a gymerir i annog pobl i ymwneud mwy â threftadaeth a diwylliant ac i gyfrannu mwy atynt, a fydd yn ddigon i ddarparu gwerthusiad cadarn.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau ein bod yn cadw arbenigedd yn ein sefydliadau treftadaeth fel na fyddwn yn colli‘r gallu i ddehongli ein gorffennol yn sgîl colli swyddi.

b) cyflwyno prentisiaethau treftadaeth fel ffordd o sicrhau bod ein dealltwriaeth o’n treftadaeth yn cael ei throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ymchwilio i’r broses o gael statws elusennol.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau celf a threftadaeth eraill i sicrhau y gellir rhoi benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos yng Nghymru i gyfleusterau eraill.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

15/01/2014 - Debate: The Annual Report on Equality 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 17.46

NDM5394 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Derbyniwyd  gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai fod gan bobl sydd wedi dioddef troseddau rhyw yn eu herbyn yr hawl i wybod pryd y mae'r sawl a ymosododd arnynt yn cael ei ryddhau o gaethiwed, gan gynnwys amodau’r rhyddhau hwnnw, ac y dylai'r hawl hwn gael ei gynnwys yn y Bil arfaethedig, y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

10

1

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5394 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn nodi’r cynnydd a gyflawnwyd o safbwynt hybu cydraddoldeb a chynhwysiant yn 2012-13, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Rhagfyr 2013.

2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu’r gwaith o ddatblygu polisïau yn y gweithle yng nghyswllt cam-drin domestig ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

3.Yn cydnabod yr angen i sicrhau bod gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol o safon gyson ac ar gael ledled Cymru.

4.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i Bobl Anabl fel yr un sydd wedi'i chyflwyno gan Lywodraeth y DU.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

15/01/2014 - Debate: The 2014-15 Local Government Revenue & Capital Settlements

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5393 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988:

Yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2014-2015 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Ionawr 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

15

12

55

Derbyniwyd y cynnig.

11/12/2013 - Debate on the Sustainable Development Annual Report

Dechreuodd yr eitem am 16.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5381 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu “’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod gwelliannau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y gostyngiad yn lefelau caffael bwyd lleol y sector cyhoeddus, nad oedd y strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bresennol yn addas i'r diben ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun labelu cynhwysfawr ar gyfer bwyd a diod o Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

11

28

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn partneriaethau cyflawni.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5381 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd.

2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013.

3. Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod gwelliannau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn partneriaethau cyflawni.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru.

6. Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad.

7. Yn cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.

8. Yn galw am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

12

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

11/12/2013 - Debate on the Final Budget 2014-15

Dechreuodd yr eitem am 16.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5382 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 3 Rhagfyr 2013.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

1. y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

2. yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

16

12

56

Derbyniwyd y cynnig.

27/11/2013 - Debate: The benefits to Wales of the UK's continued membership of the European Union

Dechreuodd yr eitem am 18.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5367 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

43

56

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn nodi bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar y DU yn aros yn aelod o’r UE; bod Cymru’n elwa o £144 miliwn y flwyddyn o fod yn aelod o'r UE; a bod dros 10,000 o gwmnïau yng Nghymru yn masnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda thrydydd partïon ar gyfer swyddi a'r economi yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

1

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn croesawu rôl yr UE yn diogelu ein hamgylchedd fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau 20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n cael ei chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

2

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn croesawu cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

3

0

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

sy’n cynnwys gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

1

0

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, os bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael ei gofnodi ar wahân.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

7

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5367 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.

Yn croesawu rôl yr UE yn diogelu ein hamgylchedd fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau 20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n cael ei chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.

Yn nodi bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar y DU yn aros yn aelod o’r UE; bod Cymru’n elwa o £144 miliwn y flwyddyn o fod yn aelod o'r UE; a bod dros 10,000 o gwmnïau yng Nghymru yn masnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda thrydydd partïon ar gyfer swyddi a'r economi yng Nghymru.

Yn cydnabod y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd sy’n cynnwys gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.

Yn credu, os bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael ei gofnodi ar wahân.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

5

3

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

20/11/2013 - Debate on the Children's Commissioner for Wales' Annual Report 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 17.22

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5357 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y pryder a godwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch difrifoldeb trefniadau diogelu annigonol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth ganfyddiad yn yr adroddiad bod lleisiau plant a phobl ifanc yn aml yn cael eu hanwybyddu’n llwyr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth gadarnach o ran mynediad at eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

1

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno Bil Plant a Phobl Ifanc (Cymru) er ei hymrwymiad yn natganiad deddfwriaethol 2011, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r penderfyniad hwn a chyflwyno deddfwriaeth i gryfhau hawliau plant a phobl ifanc ac i ddiwygio’r sail statudol dros swyddfa’r Comisiynydd Plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ymateb i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru cyn y ddadl flynyddol arno.  Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5357 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig.

20/11/2013 - Debate on the Draft Budget 2014-15

Dechreuodd yr eitem am 15.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5356 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1. Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol a wnaethpwyd yn y gyllideb ddrafft i’r gwasanaeth iechyd yn sgîl y pwysau a roddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2014-15 fel ei bod:

a) yn diogelu’r gyllideb iechyd mewn termau real ac yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol sy’n wynebu byrddau iechyd lleol yng Nghymru;

b) yn bodloni anghenion busnesau ledled Cymru, er budd economi Cymru;

c) yn mynd i’r afael â’r heriau cyllido sy’n wynebu colegau Addysg Bellach, er mwyn iddynt allu darparu amrywiaeth lawn o sgiliau a chyrsiau galwedigaethol i ddysgwyr yng Nghymru.

 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau:

a) Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal yn nes at adref;

b) bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyblu;

c) tri robot Da Vinci modern a fydd yn darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol;

d) cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg feddygol;

e) bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu; ac

Yn nodi ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn hynny.

Cefnogwyd gan:

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft:

a) £35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;

b) Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau ar y system gofal mewn argyfwng;

c) buddsoddiad ychwanegol o £9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a

d) Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.

Cefnogwyd gan:

Elin Jones (Ceredigion)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

11

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5356 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

1. Yn nodi’r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 8 Hydref 2013.

2. Yn nodi’r cytundeb pwysig a gyflawnwyd gan Blaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i sicrhau:

a) Cronfa Gofal Canolraddol i leihau’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac i ddarparu gofal yn nes at adref;

b) bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddyblu;

c) tri robot Da Vinci modern a fydd yn darparu gweithdrefnau llawfeddygol llai mewnwthiol;

d) cronfa technoleg iechyd a thelefeddygaeth i roi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg feddygol;

e) bod y Rhaglen Cefnogi Pobl yn cael ei diogelu; ac

Yn nodi ymhellach yr effaith gadarnhaol y bydd buddsoddiadau o’r fath yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad a’r gwelliannau mewn gwasanaethau cymunedol a fydd yn dilyn hynny.

Cefnogwyd gan:

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

3. Yn croesawu’r gweithredu ar y cyd rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Phlaid Cymru, a sicrhaodd y canlynol yn y Gyllideb Ddrafft:

a) £35 miliwn ychwanegol i ddyblu'r cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol;

b) Cronfa Gofal Canolraddol gwerth £50 miliwn i gefnogi byw’n annibynnol ac i leihau’r pwysau ar y system gofal mewn argyfwng;

c) buddsoddiad ychwanegol o £9.5 miliwn yn y Gronfa Technoleg Iechyd er mwyn cynyddu buddsoddiad mewn telefeddygaeth; a

d) Pecyn Cefnogi Pobl gwerth £5.5 miliwn i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.

Cefnogwyd gan:

Elin Jones (Ceredigion)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

14

12

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

13/11/2013 - Debate: NHS and Social Service Plans for Winter Preparedness

Dechreuodd yr eitem am 17.43

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5348 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi gwaith GIG Cymru a’i bartneriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf o’n blaenau.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y penderfyniad i ohirio llawdriniaethau orthopedig yn ardal Hywel Dda.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid cynllunio ar gyfer pwysau’r gaeaf fel mater o drefn, ac na ddylai arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi Cynllun Paratoi ar gyfer y Gaeaf Cenedlaethol blynyddol ar gyfer GIG Cymru; a

b) cytuno bod cynlluniau o’r fath yn destun gwerthusiad ar ôl eu rhoi ar waith er mwyn canfod pa mor effeithiol ydynt.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at gynlluniau arfaethedig Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i ohirio’r holl lawdriniaethau orthopedig dewisol dros y gaeaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun paratoi ar gyfer y gaeaf pob Bwrdd Iechyd Lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith y cafodd 2,600 o lawdriniaethau eu gohirio y llynedd oherwydd bod mwy o bwysau dros y gaeaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Byrddau Iechyd Lleol er mwyn osgoi unrhyw achosion o oedi neu ganslo llawdriniaethau oherwydd pwysau’r gaeaf yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod 2,713 yn llai o welyau mewn ysbytai yng Nghymru nag a oedd yn 2003, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael er mwyn helpu i ateb yr her a ddaw yn sgîl y galw dros y gaeaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5348 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gwaith GIG Cymru a’i bartneriaid wrth iddynt baratoi ar gyfer y gaeaf o’n blaenau.

2. Yn credu y dylid cynllunio ar gyfer pwysau’r gaeaf fel mater o drefn, ac na ddylai arwain at ddirywiad mewn gwasanaethau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi Cynllun Paratoi ar gyfer y Gaeaf Cenedlaethol blynyddol ar gyfer GIG Cymru; a

b) cytuno bod cynlluniau o’r fath yn destun gwerthusiad ar ôl eu rhoi ar waith er mwyn canfod pa mor effeithiol ydynt.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun paratoi ar gyfer y gaeaf pob Bwrdd Iechyd Lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

06/11/2013 - Debate: Support for the Armed Forces in Wales

Dechreuodd yr eitem am 18.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio

NDM5343 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;

b) y Pecyn Cymorth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;

c) y gwaith sy’n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae Pecyn Cymorth diweddaraf Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gael o’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/armedforces/packagesupport/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

pwysigrwydd Dydd y Cofio o ran ein hatgoffa am aberth yr unigolion hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'r rheiny yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu a brofodd newid diwrthdro yn eu bywydau yn sgil gwrthdaro ers 1914;

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt a) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

bod Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar y gorwel a bod angen diogelu ein Cofebion Rhyfel;

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys is-bwynt b) newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

ac yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyflwyno Cynllun Cerdyn i Gyn-filwyr, yn unol â'r addewid a wnaed 2 flynedd yn ôl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

anghenion cymhleth ac amrywiol Cymuned y Lluoedd Arfog.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gwaith rhagorol y mae mudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol a noddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud o ran ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r gwaith hwn yn ei fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

10

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol, gwerth £30 miliwn, y mae Llywodraeth y DU wedi'i lansio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i gymunedau lleol gryfhau’r cyswllt a’r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach y maent yn byw ynddi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

10

0

53

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y GIG i alluogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma gael gofal priodol, gan gynnwys mynediad at arbenigwyr a chymorth brys a seibiant digonol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael y driniaeth feddygol flaenoriaethol y mae ganddynt hawl iddi drwy drefnu bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn rhoi dull cyson ar waith ar gyfer adnabod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog; i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo; ac i fonitro'r gwaith o ddarparu'r hawl honno.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

10

53

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu polisi comisiynu cam wrth gam ar gyfer darparu aelodau prosthetig o’r corff i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru a gwneud gwelliannau i'r gwaith o gynllunio, trefnu a darparu gwasanaethau prosthetig yn gyffredinol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

2

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 -  Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn sefydlu perthynas â Chanolfan Adferiad Meddygol y Gwasanaeth Amddiffyn yn Headley Court.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

10

0

53

Derbyniwyd gwelliant 10.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5343 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar y gorwel a bod angen diogelu ein Cofebion Rhyfel;

b) pwysigrwydd Dydd y Cofio o ran ein hatgoffa am aberth yr unigolion hynny sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'r rheiny yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu a brofodd newid diwrthdro yn eu bywydau yn sgil gwrthdaro ers 1914;

c) gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;

ch) y Pecyn Cymorth diweddaraf gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru;

d) y gwaith sy’n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

dd) anghenion cymhleth ac amrywiol Cymuned y Lluoedd Arfog.

2. Yn cydnabod y gwaith rhagorol y mae mudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol a noddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei wneud o ran ymgysylltu â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r gwaith hwn yn ei fframwaith ymgysylltu a datblygu ieuenctid.

3. Yn croesawu Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol, gwerth £30 miliwn, y mae Llywodraeth y DU wedi'i lansio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i gymunedau lleol gryfhau’r cyswllt a’r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach y maent yn byw ynddi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti o fewn y GIG i alluogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma gael gofal priodol, gan gynnwys mynediad at arbenigwyr a chymorth brys a seibiant digonol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael y driniaeth feddygol flaenoriaethol y mae ganddynt hawl iddi drwy drefnu bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn rhoi dull cyson ar waith ar gyfer adnabod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog; i sicrhau bod aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn ymwybodol o'r hyn y mae ganddynt hawl iddo; ac i fonitro'r gwaith o ddarparu'r hawl honno.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn sefydlu perthynas â Chanolfan Adferiad Meddygol y Gwasanaeth Amddiffyn yn Headley Court.  

Mae Pecyn Cymorth diweddaraf Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gael o’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/armedforces/packagesupport/?skip=1&lang=cy

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

23/10/2013 - Debate on The Welsh Language Commissioner's Annual Report 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 17.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5337 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2012-13, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 26 Medi, sy’n amlygu’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru hyd yma wedi cyhoeddi safonau iaith Gymraeg yn dilyn gwaith y Comisiynydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gyrff sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn gweithredu polisi iaith Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgynghori’n eang ar ddatblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a bod targedau cadarn yn cael eu sefydlu ar gyfer eu gweithredu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5337 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2012-13, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 26 Medi, sy’n amlygu’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

16/10/2013 - Debate on the Older People's Commissioner for Wales' Annual Report 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 17.09

NDM5326 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2012/13, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Medi 2013.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal cam-drin pobl hŷn a mynd i’r afael â hyn, boed hwnnw'n gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol neu ariannol.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5326 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2012/13, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Medi 2013.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal cam-drin pobl hŷn a mynd i’r afael â hyn, boed hwnnw'n gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol neu ariannol.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16/10/2013 - Debate on the Equality and Human Rights Annual Report: "Working together to strengthen equality and human rights in Wales - Wales Review 2012-13"

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM5327 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru’.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy cywir.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn cyfleoedd gwaith o bob math.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5327 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Cydweithio i gryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru’.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella safon ac argaeledd gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr trais rhywiol.

Yn cydnabod yr angen i annog dioddefwyr troseddau casineb a cham-drin domestig i roi gwybod am ddigwyddiadau o’r fath.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o sicrhau bod aelodaeth byrddau’r sector cyhoeddus yn adlewyrchu’r cymunedau a wasanaethir ganddynt yn fwy cywir.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau i fynd i’r afael â stereoteipio ar sail rhyw mewn cyfleoedd gwaith o bob math.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

09/10/2013 - Debate on Direct Payments of Housing Costs to Tenants in Wales

Dechreuodd yr eitem am 15.40

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau i gyflwyno taliadau uniongyrchol;

2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol cymdeithasau tai; a

3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôlâ’i chynlluniau’ a rhoi yn ei le:

‘i safoni taliadau uniongyrchol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

33

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

sy’n cynnig y potensial i rymuso pobl drwy roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu harian, a chynnig llwybr cliriach i waith ac annibyniaeth.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r ‘Universal Credit Local Support Services Framework’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ac a luniwyd ar y cyd ag asiantaethau, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n rhestru’r cymorth sydd ar gael i hawlwyr y mae angen talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

33

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus ar holl ganfyddiadau’r Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol a fydd yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith er mwyn osgoi achosion o droi allan.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

12

5

51

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau i gyflwyno taliadau uniongyrchol;

2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol cymdeithasau tai;

3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau;

4. Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith er mwyn osgoi achosion o droi allan; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

17

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

17/07/2013 - Debate: First Supplementary Budget 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 19.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5278 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 25 Mehefin 2013.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

12

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

10/07/2013 - Debate: The NHS in Wales - Learning from the Francis Inquiry

Dechreuodd yr eitem am 17.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5288 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod data ar farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

12

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ymrwymiad i gyhoeddi polisi newydd ar chwythu'r chwiban cyn diwedd mis Gorffennaf 2013, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei llinell gymorth ddi-dâl ei hun ar gyfer chwythu'r chwiban er mwyn ategu'r polisi hwn a galluogi holl staff a chleifion y GIG i roi gwybod am eu pryderon yn ddienw.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5288 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i Adroddiad Francis.

Yn nodi bod data ar farwolaethau wedi cyfrannu at y penderfyniad i gomisiynu Adroddiad Francis, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerir i ddatrys pryderon a gododd yn sgîl data marwolaethau GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2013.

Yn nodi gyda phryder bod y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn uwch na’r cyfartaledd mewn 11 o'r 17 o ysbytai cyffredinol dosbarth yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol i fynd i'r afael â’r ôl-groniad o ran codio clinigol ac i sefydlu dull o ymchwilio pan fydd ysbyty neu Fwrdd Iechyd Lleol yn croesi trothwy penodol ar gyfer y mynegai marwolaethau wedi'i addasu yn ôl risg yn gyson dros gyfnod.

Yn nodi gyda phryder bod Adroddiad Francis yn nodi lefelau staffio isel hirdymor fel un rheswm a gyfrannodd at driniaeth wael, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried potensial deddfwriaeth i osod lefel staffio sylfaenol ar gyfer nyrsys yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

26/06/2013 - Debate: Primary Care and the Inverse Care Law

Dechreuodd yr eitem am 16.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ar gyflwyno moratorium ar ddatblygu cynlluniau gofal sylfaenol newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

27

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig difrifol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r ymgyrch Gweithio dros Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am brinder deintyddion y GIG yng Nghymru sy'n derbyn cleifion newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad o nifer y bobl nad ydynt yn gallu cael gafael ar ddeintydd y GIG yn eu hardal, i ganfod lle mae problemau lleol yn bodoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

27

51

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5272 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran llunio a chyflenwi gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Yn nodi’r cynnig gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu am dimau o weithwyr meddygol proffesiynol o dan arweiniad meddygon teulu i ddarparu gofal drwy'r dydd a'r nos i rai cleifion sydd â chyflyrau cronig difrifol.

Yn nodi bod gwasanaeth gofal cymdeithasol effeithiol yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod pobl yn gallu rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned ac yn gresynu wrth y rhwystrau artiffisial sy’n parhau rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yn cydnabod pwysigrwydd recriwtio a chadw meddygon ar gyfer darparu gofal sylfaenol mewn ardaloedd gwledig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro a chyhoeddi nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio drwy'r ymgyrch Gweithio dros Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

26/06/2013 - Debate: The Housing White Paper - Update on Implementation

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;

2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;

3. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1 dileu popeth ar ôl ‘sylweddol' a rhoi yn ei le ‘sy’n wynebu cyflenwyr tai a sefydliadau eraill yng Nghymru ers datganoli i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

38

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn mynegi pryder am fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r cynllun NewBuy Cymru, sy'n cosbi’r rheini sy’n prynu ty am y tro cyntaf yng Nghymru ac yn rhoi pobl sy’n prynu tai ac yn adeiladu tai o dan anfantais yng Nghymru o’i gymharu â Lloegr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

7

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen 20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

12

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd gydag agweddau anneddfwriaethol y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r nifer bychan o dai newydd sydd wedi cael eu hadeiladu yng Nghymru;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

27

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun integredig i fynd i’r afael â mater cartrefi gwag yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cartrefi Gwag genedlaethol ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

27

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth landlordiaid a thenantiaid yn 2012.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘cydnabod’ a rhoi yn ei le 'angen Llywodraeth Cymru i gyflwyno Rhaglen Marchnad Gyfan i gyflenwi mwy o gartrefi a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

7

27

50

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Arolwg Tai Cymru i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth am broffil cartrefi a'r stoc tai yng Nghymru, i helpu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a monitro polisïau tai Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

27

50

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5271 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar hyn o bryd i helpu pobl i fyw mewn tai gweddus a fforddiadwy;

2. Yn nodi’r amcangyfrif gan Brif Weinidog Cymru bod angen 20,000 i 25,000 yn ychwanegol o gartrefi un a dwy ystafell wely i liniaru ar effeithiau’r newidiadau i’r budd-dal tai;

3. Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy’r cynllun achredu cenedlaethol ‘Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru’ i gydnabod landlordiaid da a gwella’r cyflenwad o lety o ansawdd da ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o drwyddedu asiantaethau gosod tai yng ngoleuni’r cynnydd o 9% mewn cwynion am asiantaethau gosod tai oddi wrth landlordiaid a thenantiaid yn 2012;

4. Yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu’r camau a amlinellir yn y Papur Gwyn ynghylch Tai a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau o ran y cyflenwad tai fforddiadwy a sicrhau bod tai gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto;

5. Yn cydnabod rhaglen Llywodraeth Cymru i gyflenwi mwy o dai a chymryd camau eraill a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl; a

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prynwyr tro cyntaf yn gallu manteisio ar gynlluniau priodol sydd wedi’u sefydlu i’w helpu i allu fforddio cartrefi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

12

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

12/06/2013 - Debate: Measles and the importance of vaccination programmes

Dechreuodd yr eitem am 15.59

NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch; a

2. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo'n unol â hynny:

Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ymholiad cyhoeddus llawn ac annibynnol er mwyn dysgu gwersi yn sgîl yr achosion hyn, ac i leihau’r tebygrwydd o ragor o achosion yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

42

55

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5260 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch; a

2. Yn mynegi ei ddiolch i staff gweithgar Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a swyddogion cyhoeddus eraill yn Abertawe ac mewn mannau eraill am y gwaith y maent wedi ei wneud wrth fynd i'r afael â'r achosion o'r frech goch.

3. Yn cydnabod pwysigrwydd rhaglenni brechu plant.

4. Yn mynegi pryder ynghylch arferion rhai cwmnïau preifat o ran marchnata brechlynnau heb eu trwyddedu a phresgripsiwn yn unig, ac am yr honiadau camarweiniol a wnaethpwyd gan rai clinigau brechiad sengl ynghylch y brechlyn MMR cyfun.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

22/05/2013 - Debate: Promoting green growth through resource efficiency

Dechreuodd yr eitem am 16.52

NDM5243 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod gwerth hybu twf gwrdd fel un o’r prif sbardunau i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn cydnabod y potensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu’r economi werdd.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn nodi amcangyfrif y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, sef y gallai tua 400,000 o swyddi ledled y DU gael eu cefnogi gan y diwydiant ynni adnewyddadwy erbyn 2020, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd busnes gwyrdd ar gyfer twf economaidd.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd mentrau gwyrdd wrth gefnogi’r gwaith o adfywio cymunedau a manteision eang cynlluniau cymunedol gwyrdd.  

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth drosfwaol glir ar gyfer twf gwyrdd sy’n cael ei chefnogi gan dargedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau clir i ddatrys gwrthdaro rhwng blaenoriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhaglen gyda chanlyniadau y gellir eu mesur i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

27

55

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Coleg Adeiladu Sgiliau Gwyrdd i wneud Cymru yn ganolfan ragoriaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

41

56

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ‘trywydd’ a chynllun gweithredu, gyda thargedau cynhyrchu, ar gyfer pob math o ynni adnewyddadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu’r cymorth y gall ei gynnig i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r buddsoddiad hwn yn ei greu ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gwyrdd i ddatblygu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol yng Nghymru, er mwyn cefnogi twf gwyrdd yn economi ehangach Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyfleoedd academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu dangosyddion perfformiad penodol i fonitro cynnydd twf gwyrdd yng Nghymru, er enghraifft:

1.   Diweddaru ffigurau Gwerth Ychwanegol Crynswth bob chwarter

2.   Ystadegau busnes sy’n canolbwyntio ar gategorïau craidd yn Rhaglen Adnewyddu'r Economi

3.   Ystadegau cyflogaeth yn y gweithle ar gyfer yr economi werdd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5243 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi amcangyfrif y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy, sef y gallai tua 400,000 o swyddi ledled y DU gael eu cefnogi gan y diwydiant ynni adnewyddadwy erbyn 2020, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd busnes gwyrdd ar gyfer twf economaidd.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatblygu’r economi werdd.

Yn cydnabod y potensial enfawr ar gyfer twf gwyrdd yng Nghymru.

Yn cydnabod gwerth hybu twf gwrdd fel un o’r prif sbardunau i’n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.

Yn cydnabod pwysigrwydd mentrau gwyrdd wrth gefnogi’r gwaith o adfywio cymunedau a manteision eang cynlluniau cymunedol gwyrdd.  

Yn annog Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth drosfwaol glir ar gyfer twf gwyrdd sy’n cael ei chefnogi gan dargedau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â chanllawiau clir i ddatrys gwrthdaro rhwng blaenoriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi rhaglen gyda chanlyniadau y gellir eu mesur i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.

Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi sefydlu Banc Buddsoddi Gwyrdd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu’r cymorth y gall ei gynnig i fusnesau Cymru er mwyn iddynt fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r buddsoddiad hwn yn ei greu ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaen sgiliau gwyrdd i ddatblygu cadwyn gyflenwi gadarn ac effeithiol yng Nghymru, er mwyn cefnogi twf gwyrdd yn economi ehangach Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r cyfleoedd academaidd a galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau i gefnogi swyddi gwyrdd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

15/05/2013 - Debate: Strengthening Local Government Democracy

Dechreuodd yr eitem am 16.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘Yn cydnabod gwerth hyrwyddo democratiaeth leol sy’n agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ a rhoi ‘Yn gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon, yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol’ yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ar ôl ‘amrywiaeth’ cynnwys ‘ac ymgysylltu â rhanddeiliad’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

10

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a llywodraeth leol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

12

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi cyflwyno system etholiadol deg a chyfrannol i sicrhau bod canlyniadau yn cyfleu'r ffordd y mae pobl yn pleidleisio ac yn cynrychioli eu cymunedau lleol yn well, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad Comisiwn Sunderland yn 2002 drwy hyrwyddo deddfwriaeth i gyflwyno system un bleidlais drosglwyddadwy ar gyfer cynghorau lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

7

5

53

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5237 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwerthfawrogi angenrheidrwydd dadlau dros ddemocratiaeth leol sy’n effeithlon, yn agored, yn dryloyw ac yn atebol a phwysigrwydd annog mwy o amrywiaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliad mewn Llywodraeth Leol.

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn y pen draw i hwyluso ffrydio byw yn ystod pob un o gyfarfodydd craffu a chabinet cynghorau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno agenda gynhwysfawr a fydd yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd mewn democratiaeth leol a llywodraeth leol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei bod yn cefnogi datganoli cyfrifoldeb dros etholiadau llywodraeth leol i’r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn gresynu nad yw oddeutu 77,000 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru yn cael pleidleisio ar hyn o bryd ac yn credu y byddai atebolrwydd democrataidd yn cael ei gryfhau drwy ganiatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

12

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

08/05/2013 - Debate: The Professor McClelland Review of Welsh Ambulance Services

Dechreuodd yr eitem am 16.19

NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi;

2. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro McClelland;

3. Yn cydnabod bod angen:

a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

b) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi â phryder:

a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd, Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd;

b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf;

c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol;

d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt gyrraedd erioed wedi'i gyflawni;

e) mae ambiwlansys wedi treulio bron i 55,000 awr yn aros y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf;

f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu is-bwynt 3b) a rhoi'r canlynol yn ei le:

‘b) cyhoeddi amserlen glir ar gyfer sicrhau gwelliannau i Wasanaethau Ambiwlans Cymru.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

5

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel is-pwynt 3b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu;

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd ymateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth 2013, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010 ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i gyrraedd am ddeg mis yn olynol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers 2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n llawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a staff.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans effeithlon a chadarn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

9

0

55

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1 Yn nodi â phryder:

a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd, Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd;

b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf;

c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol;

d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu ryddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt gyrraedd erioed wedi'i gyflawni;

e) mae ambiwlansys wedi treulio bron i 55,000 awr yn aros y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf;

f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%.

2. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi;

3. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro McClelland;

4. Yn cydnabod bod angen:

a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

b)sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu;

c) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu.

5. Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion.

6. Yn nodi mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd ymateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth 2013, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010 ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i gyrraedd am ddeg mis yn olynol.

7. Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers 2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n llawn.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a staff.

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans effeithlon a chadarn.

10. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

08/05/2013 - Debate: Public Service Reform

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM5229 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Agenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

Yn credu bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan hanfodol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres o safonau cenedlaethol ar arfer gorau o ran ymgysylltu rhwng cymunedau a chyrff cyhoeddus.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i unrhyw ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus hwyluso’r broses bontio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut y gallwn integreiddio'r gwasanaethau hynny yn well o fewn strwythur cyflenwi democrataidd ac atebol.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn agored ac yn atebol am ddiwygio'r gwasanaeth sifil a’i berfformiad o ran datblygu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio effeithiol rhwng y sector annibynnol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector o ran cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

9

0

55

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd gwybodaeth leol a chynnwys y gymuned o ran datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a phriodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn monitro cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn effeithiol ac yn darparu'r canllawiau priodol ac amserol i'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

24/04/2013 - Debate: End of Life Care

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes; a

2. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal diwedd oes o safon uchel yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r manteision y gall taliadau uniongyrchol eu cynnig i wella profiad y claf ar gyfer pobl sy’n cael gofal diwedd oes.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn llesteirio’r cynnydd o ran gwella gofal diwedd oes yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailflaenoriaethu’i chyllidebau i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

5

33

51

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5209 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn i wella gwasanaeth gofal diwedd oes;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd parchu dymuniadau cleifion wrth ddarparu gofal diwedd oes;

3. Yn cydnabod cyfraniad y mudiad hosbis, a darparwyr gofal eraill, tuag at ofal diwedd oes o safon uchel; a

4. Yn nodi Law yn Llaw at Iechyd: Darparu Gofal Diwedd Oes.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

21/03/2013 - Dadl: Llais y Cleifion - Cryfhau Rôl y Cynghorau Iechyd Cymuned

Dechreuodd yr eitem am 16.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5193 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned’ a rhoi yn ei le ‘ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn eu cynorthwyo’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

5

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai aelodau’r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned sydd yn y sefyllfa orau i benodi eu Cadeirydd, yn hytrach na Gweinidogion Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

1

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro’r canllawiau ynghylch rôl Cynghorau Iechyd Cymuned i fod yn ‘llais i gleifion’ yn y broses o ad-drefnu gwasanaethau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu Safonau Cenedlaethol Ymgysylltu â’r Gymuned, yn seiliedig ar fodel yr Alban, er mwyn gwella rôl Cynghorau Iechyd Cymuned o ran sicrhau bod safbwyntiau'r cyhoedd yn cael eu hystyried yn briodol wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol am ein GIG.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5193 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru i weddnewid, cryfhau a grymuso Cynghorau Iechyd Cymuned i ymgymryd â’u rôl yn y GIG yn yr unfed ganrif ar hugain.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn llais annibynnol i gleifion.

Yn credu bod yn rhaid i Gynghorau Iechyd Cymuned chwarae rhan allweddol wrth fod yn llais cryf i gleifion a'r cyhoedd, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cynghorau Iechyd Cymuned yn cael y cyllid a'r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn cyfrannu’n effeithiol at y broses o ad-drefnu GIG Cymru yn y dyfodol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

21/03/2013 - Debate: The Estyn Annual Report 2011-12

Dechreuodd yr eitem am 15.40

NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai ‘presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau a roddwyd i ysgolion er mwyn sicrhau bod y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i dargedu’r cyfraddau uchel o absenoldeb ymhlith disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim, er mwyn codi lefelau cyflawniad disgyblion o gefndiroedd tlotach gymaint â phosibl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

11

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

20

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy na’r llynedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu meincnodau a thargedau cenedlaethol i fonitro'r cynnydd a wneir i fynd i’r afael â’r bwlch rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r 'disgyblion mwy galluog a thalentog yn cyflawni gystal yng Nghymru ag yn Lloegr', yn ôl yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi cryn bryder bod angen gwella safonau llythrennedd dros hanner yr ysgolion cynradd a’r ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

14

53

Derbyniwyd gwelliant 11.

Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog y Gweinidog i egluro sut y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar yr adroddiad hwn gan gorff hyd braich annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

43

54

Gwrthodwyd gwelliant 12.

Gwelliant 13 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i'r afael â'r methiannau yn system addysgol Cymru a nodwyd gan Estyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 13.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5189 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2011-12.

Yn nodi'n benodol gasgliad y Prif Arolygydd mai ‘presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les yn yr ysgolion o hyd’.

Yn nodi'r angen, a nodwyd gan y Prif Arolygydd, i roi mwy o gefnogaeth i athrawon wrth fynd ati i sicrhau bod safonau’n gwella.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar rannu arferion gorau mewn addysg ar gyfer torri’r cylch tlodi ac anfantais mewn ysgolion.

Yn gresynu wrth y canfyddiadau yn yr adroddiad fod y gyfran o ysgolion a gafodd eu harolygu yn 2011-12 y barnwyd eu bod yn rhagorol neu’n dda yn is na’r flwyddyn flaenorol, gyda mwy o ysgolion uwchradd yn y pegynau perfformiad rhagorol neu anfoddhaol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Estyn yn adrodd am ba mor effeithiol y mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion o gefndiroedd mwy cefnog.

Yn mynegi pryder bod 54 y cant o ysgolion uwchradd a 48 y cant o ysgolion cynradd wedi cael eu nodi ar gyfer ymweliadau dilynol, sy’n fwy na’r llynedd.

Yn gresynu wrth ganfyddiadau Estyn sy’n awgrymu bod 'perfformiad addysgu sydd o safon gyffredin' yn bodoli.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

11

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

12/03/2013 - Debate: Quality in NHS Wales - ensuring learning from the Francis Report

Dechreuodd yr eitem am 17.22

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl ‘Swydd Stafford’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

29

47

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r pryderon difrifol a gododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn yr arolygiadau urddas a gofal hanfodol a gynhaliwyd yn ein hysbytai.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

25

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) gweithredu argymhellion Adroddiad Francis sy’n berthnasol i’n GIG ni;

(b) ystyried creu gwefan “fyYsbytylleol” tebyg i wefan “fyYsgolleol” i sicrhau bod pob ysbyty'n darparu gwybodaeth hygyrch a thryloyw am berfformiad; ac

(c) cyflwyno deddfwriaeth i wneud methiant i ddarparu adroddiad cywir am yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth claf yn drosedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

25

47

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y potensial i bwysau ariannol yn y GIG yng Nghymru danseilio’r awydd i ddarparu gofal diogel a thosturiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

32

47

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r pryderon a fynegwyd yn adroddiad Ymchwiliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Canol Swydd Stafford o ran lefelau staffio, ac

a) yn gresynu bod pryderon ynghylch cywirdeb a chysondeb data ar lefelau staffio hefyd wedi’u canfod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad diweddar ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (Chwefror 2013);

b) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i sicrhau nad yw staff sy’n absennol am gyfnod hir, neu wedi eu hatal o’u gwaith, yn cael eu cynnwys mewn rotas staffio yn y dyfodol oni ddisgwylir iddynt ddychwelyd i’w gwaith yn fuan iawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

25

47

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003 i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion, ac  Iawn) (Cymru) 2011 i gynnwys gofyniad i’r hyn a ddysgir o ganlyniad i gwynion gael ei nodi, ei ledaenu a’i roi ar waith yn effeithiol gan roi gwybod i’r achwynydd ac i’r cyhoedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

0

25

47

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003 i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

06/03/2013 - Dadl ar Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith Gymraeg

Dechreuodd yr eitem am 16.40

NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn nodi:

(a) bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg;

(b) bod y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac

(c) bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, rheoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu ein bod, dros ddwy flynedd ar ôl pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn parhau i fod yn bell iawn o fabwysiadu cyfres ffurfiol o safonau ar gyfer gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NNDM5176 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn nodi:

(a) bod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi penderfynu peidio symud ymlaen gyda safonau arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â’r Gymraeg;

(b) bod y Gweinidog nawr yn bwriadu adeiladu ar ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg, i ddatblygu cyfres o safonau a fydd yn sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg, o ran gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg; ac

(c) bod y Gweinidog yn bwriadu gwneud, gyda chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, rheoliadau yn gwneud y gyfres gyntaf o safonau, a gwneud y safonau hynny yn benodol gymwys i bersonau, erbyn diwedd 2014.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen weithredu fanwl ar gyfer cyflwyno safonau iaith Gymraeg erbyn 2014.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

06/03/2013 - Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dechreuodd yr eitem am 15.30

NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.   

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5174 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2013 i gydnabod rôl a chyfraniad menywod yng Nghymru.

2. Yn cydnabod dewrder menywod sydd wedi cael eu cam-drin am roi gwybod am ddigwyddiadau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo strategaeth integredig ar gyfer mynd i'r afael â thrais domestig a rhywiol.   

3.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu nifer y menywod sydd mewn sefyllfa o bwer a dylanwad yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

06/03/2013 - Dadl: Yr Ail Gyllideb Atodol 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5162 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 5 Chwefror 2013.

 Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

12

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

27/02/2013 - Debate: Government support for new business in Wales

Dechreuodd yr eitem am 16.36

NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ystod eang o gyngor a mentrau sy’n hybu ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo:

‘Yn mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru yn dibynnu ar orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o arian ar gyfer problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.’

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu ‘Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod’ a rhoi ‘Yn nodi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn darparu’ yn ei le

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth yn is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod â gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i ennyn ysbryd entrepreneuraidd o oedran ifanc, ac yn credu y byddai sefydlu mentrau cymdeithasol ym mhob ysgol uwchradd yn sicrhau bod gan ein pobl ifanc sgiliau busnes pwysig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

30

49

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu dull lleol o gynorthwyo busnesau newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r effaith gadarnhaol y mae rhyddhad ardrethi busnes yn ei chael ar hybu cychwyn busnesau newydd yng Nghymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi pellach ar gyfer busnesau bach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

7

49

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd a Mentrau Cyllid Datblygu Cymunedol eraill.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

7

0

49

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd entrepreneuriaeth yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 11.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5169 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder bod nifer o fusnesau newydd yng Nghymru yn dibynnu ar orddrafftiau banc a chardiau credyd fel y prif ffynonellau o arian ar gyfer problemau llif arian gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.

2. Yn nodi pa mor bwysig ydyw bod Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o gyngor a mentrau sy’n hybu ac yn cefnogi entrepreneuriaeth a busnesau newydd yng Nghymru.

3. Yn nodi bod y gyfradd cychwyn busnes ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth yn is na’r gyfradd ar gyfer y sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, ac yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn cael ei hyrwyddo mewn ysgolion a cholegau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau dod â gwahanol fentrau a chynlluniau cymorth y llywodraeth at ei gilydd er mwyn datblygu dull mwy cyson a chydlynol yng nghyswllt cymorth cychwyn busnes.

5. Yn gresynu bod y gyfradd dechrau menter yng Nghymru yn dal yn is na chyfartaledd y DU.

6. Yn credu y dylai’r cynigion ar gyfer busnes newydd a amlinellir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru’ gael eu hystyried o ddifrif gan yr adolygiad o fynediad busnesau yng Nghymru at gyllid, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ystod o ffynonellau cyllid ar gyfer busnesau newydd, er enghraifft drwy Undebau Credyd a Mentrau Cyllid Datblygu Cymunedol eraill.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ymhellach gyfleoedd entrepreneuriaeth yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefelau Addysg Uwch ac Addysg Bellach.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

12

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

20/02/2013 - Debate: The Police Settlement

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5163 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2013-2014 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

11

0

52

Derbyniwyd y cynnig.

06/02/2013 - Debate: The Change4Life Be Food Smart Campaign

Dechreuodd yr eitem am 15.54

NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.

2. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1- Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant  2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer diogelu’r cyflenwad bwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

9

51

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

9

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r dull gorfiwrocrataidd o weithredu yng nghyswllt Blas am Oes sy’n ychwanegu at gost darparu bwyd iach mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.

3. Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

4. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch.

6. Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.  

7. Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

16/01/2013 - Debate on Maximising the Impact of Welsh Procurement Policy

Dechreuodd yr eitem am 18.39

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

'ac yn cydnabod y camau sylweddol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

18

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn credu bod rheolau caffael cyhoeddus yr UE yn rhy gaeth, ac y dylid eu llacio er mwyn cynorthwyo busnesau lleol i gael mwy o gontractau gan y Llywodraeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

5

0

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) roi gwybod yn glir i gymuned fusnes Cymru am unrhyw bolisïau caffael newydd; a

b) adolygu ei pholisïau caffael yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhwymedigaeth orfodol ar bob corff cyhoeddus i weithredu Polisi Caffael Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er enghraifft drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n ennill contractau caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5132 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.   Yn cydnabod yr effaith bositif y mae caffael cyhoeddus effeithiol yn ei chael ar economi Cymru; ac yn cydnabod y camau sylweddol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un

2.   Yn credu bod rheolau caffael cyhoeddus yr UE yn rhy gaeth, ac y dylid eu llacio er mwyn cynorthwyo busnesau lleol i gael mwy o gontractau gan y Llywodraeth.

3.   Yn nodi Datganiad Polisi Caffael Cymru; a

4.   Yn annog holl gyrff cyhoeddus Cymru i feithrin y gallu sy’n ofynnol i wneud y gorau o Bolisi Caffael Cymru.

5.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) roi gwybod yn glir i gymuned fusnes Cymru am unrhyw bolisïau caffael newydd; a

b) adolygu ei pholisïau caffael yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol.

6.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhwymedigaeth orfodol ar bob corff cyhoeddus i weithredu Polisi Caffael Cymru.

7.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, er enghraifft drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth.

8.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n ennill contractau caffael cyhoeddus yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

09/01/2013 - Debate on the Local Government Settlement

Dechreuodd yr eitem am 16.53

NDM5127 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2013-2014 (Setliad TerfynolCynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Ionawr 2013.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

5

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

28/11/2012 - Dadl ar yr adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk

Dechreuodd yr eitem am 16:03

NDM5108 Jane Hutt  (Bro Morgannwg)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad gan Gomisiwn Llywodraeth y DU, Comisiwn Silk, y cafwyd cytundeb unfrydol arno, ac mae’n edrych ymlaen at ei roi ar waith.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

21/11/2012 - Debate on The Children's Commissioner for Wales' Annual Report 2011-12

Dechreuodd yr eitem am 16.12

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu trefniadau llywodraethu Comisiynydd Plant Cymru, ac i ystyried gwneud y Comisiynydd yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach nag i’r Prif Weinidog yn unig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag Adroddiad Blynyddol 2011-12:

a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a

b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5095 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2011-12.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gomisiynydd Plant Cymru gyfrifoldeb dros faterion wedi eu datganoli a materion heb eu datganoli sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru.

Yn nodi bod datganiad i’r wasg Comisiynydd Plant Cymru sy’n gysylltiedig ag Adroddiad Blynyddol 2011-12:

a) yn cydnabod y pryderon a fynegwyd wrth Gomisiynydd Plant Cymru nad yw rhai pobl ifanc yng Nghymru yn gallu cael gafael ar wasanaethau ieuenctid o ansawdd da, ac nad yw gwasanaethau ieuenctid yn cael eu gwerthfawrogi ddigon; a

b) yn galw am ymrwymiad cenedlaethol i gydnabod gwerth gwaith ieuenctid.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

1

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

14/11/2012 - Debate on the Draft Budget 2013-14

Dechreuodd yr eitem am 16:24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 fel ei bod:

a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd;

b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu cyflogaeth;

c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a

d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

10

32

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

21

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

26

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 2 Hydref 2012.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

10

16

53

Derbyniwyd y cynnig

07/11/2012 - Debate on The Equality and Human Rights Commission Annual Report

Dechreuodd yr eitem am 16:30

NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.

Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.

Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.

Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

07/11/2012 - Debate on Consultation on Future Regeneration Policy

Dechreuodd yr eitem am 15:53

NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at Orllewin Cymru o gwbl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

4

22

43

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

28

43

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig unrhyw dargedau y mae modd eu mesur.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

28

43

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i seilwaith trafnidiaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

27

42

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.

Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

24/10/2012 - Debate on The Historic Environment Strategy

Dechreuodd yr eitem am 17.40

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod fel pwynt 1 newydd:

Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

6

27

51

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â CADW yn mynd yn fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

33

52

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1.   Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i economi Cymru.

2.   Nodi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sydd ar gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei ddiogelu’n dda.

3.   Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl.

4.   Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu.

5.   Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

13

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

17/10/2012 - Debate on the City Regions Report

Dechreuodd yr eitem am 16.56

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder nad yw’r adroddiad yn rhoi digon o sylw i'r rôl y gall canolfannau diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ei chwarae i arwain y twf economaidd yng ngogledd Cymru.

 Tynnwyd gwelliant 3 yn ôl.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5064 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r adroddiad ar y Dinas-ranbarthau.

Yn credu y bydd dinas-ranbarthau yn cyfrannu at dwf economaidd yn y modd mwyaf effeithiol os bydd cysylltedd digidol a thrafnidiaeth yn gwella ar draws y rhanbarth.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o drosolwg democrataidd mewn penderfyniadau a wneir ar lefel y ddinas-ranbarth.

Yn credu y bydd llwyddiant dinas-ranbarthau yn dibynnu ar gydweithio rhwng pob haen o lywodraeth; ynghyd â'r sector corfforaethol, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Yn cydnabod na ddylai’r gwaith o weithredu dinas-ranbarthau amharu ar adfywio yng ngweddill ardaloedd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn ynghylch y ffordd orau i'r ardaloedd menter perthnasol gefnogi dinas-ranbarth De-Ddwyrain Cymru.

Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

26/09/2012 - Debate on Towards a Welsh Planning Act: Report by the Independent Advisory Group

Dechreuodd yr eitem am 17:00

NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella capasiti’r system gynllunio drwy ddatblygu un Gwasanaeth Cyngor a Hyfforddiant Cynllunio Cenedlaethol i gynorthwyo adrannau cynllunio lleol i hyfforddi a datblygu eu staff.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

12

0

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

33

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu system achredu ar gyfer asiantau cynllunio.

Yn gresynu wrth yr oedi sylweddol gan Lywodraeth Cymru cyn cyflwyno ei Bil Cynllunio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

17/07/2012 - Debate on the First Supplementary Budget 2012-13

Dechreuodd yr eitem am 18:37

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

22

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

11/07/2012 - Debate on Numeracy

Dechreuodd yr eitem am 16.40

NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod rhifedd yn sgil hanfodol;

b) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn;

c) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o blith 67 o wledydd ym maes mathemateg.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu is-bwynt b), a rhoi yn ei le ‘bod angen ymateb ar fyrder i’r hen broblem o safonau rhifedd yng Nghymru, nad yw Gweinidogion addysg blaenorol wedi mynd i’r afael â hi, er mwyn codi safonau rhifedd gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni'r amcan hwn’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Yn is-bwynt b), ar ôl 'gydag ymrwymiad gan' dileu “bob”, ac ychwanegu 'Lywodraeth Cymru a phob'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod safonau rhifedd wedi dirywio, ar ôl deuddeg mlynedd ddi-dor o Weinidogion addysg Llafur mewn grym.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant  6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth fethiant Llywodraethau olynol Cymru i godi safonau rhifedd yng Nghymru yn ddigonol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

7

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn afrealistig disgwyl gwelliannau sylweddol ym mherfformiad Cymru yn yr asesiadau nesaf gan PISA, yn awgrymu nad ydynt ar frys i wella safonau rhifedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

26

49

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Gweinidog i bennu targedau clir ar gyfer gwelliannau mewn mathemateg yng nghanlyniadau PISA 2012.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

7

13

51

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r grant amddifadedd disgyblion yn ei flwyddyn ganlynol er mwyn parhau i helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

7

39

51

Gwrthodwyd gwelliant 11.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod rhifedd yn sgil hanfodol;

b) bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o blith 67 o wledydd ym maes mathemateg;

c) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a phob.sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn;

d) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd;

e) y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd

2. Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru.

3. Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

27/06/2012 - Dadl ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus

Dechreuodd yr eitem am 16:38

NDM5018 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y manteision o symleiddio gwasanaethau cyhoeddus o dan un cynllun integredig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw darpariaeth gwasanaeth yn cael ei lleihau na’i hisraddio drwy’r broses hon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

41

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

9

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y costau i gyflenwi’r Compact ar gyfer Newid yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru ac nid gan awdurdodau lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

9

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5018 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Agenda Diwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

Yn cydnabod y pwysigrwydd bod Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i hybu ymhellach y broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy, effeithlon ac o ansawdd, sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr ledled Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd tryloywder ac atebolrwydd ym mhob agwedd ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dulliau o gynyddu hyder y cyhoedd yng nghyswllt cyflenwi holl ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y grantiau sydd wedi’u neilltuo ac i drosglwyddo’r cyllid hwn i’r Grant Cymorth Refeniw ar gyfer awdurdodau lleol fel rhan o’i Hagenda Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio tuag at sefydlu gwasanaeth cyhoeddus penodol i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

20/06/2012 - Debate on Eye Health Care in Wales

Dechreuodd yr eitem am 17:24

NDM5009 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r camau a gymerwyd hyd yma i wella gofal iechyd y llygaid; a

2. Yn cydnabod bod yna fwy o waith i’w wneud ac y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn amlinellu ei hymrwymiad i wella gofal iechyd y llygaid ar gyfer pobl Cymru ymhellach fel rhan o raglen iechyd y cyhoedd ehangach.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, dileucamau a gymerwyd hyd yma’ a rhoidatblygiadau a wireddwyd gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector’ yn ei le.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôli'w wneud,’ a rhoi'r canlynol yn ei le:

ac y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd y llygaid mwy gwybodus’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

9

52

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith hwn ac yn adeiladu arno.

http://www.vision2020uk.org.uk/ukvisionstrategy/page.asp?section=134&sectionTitle=Wales+Vision+Strategy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu’r broses o weithredu’r cynllun gofal iechyd llygaid.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

40

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae modd eu hosgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid sy’n cael ei gyhoeddi yn sicrhau bod pob plentyn pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cael profion golwg yn yr ysgol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chasgliadau ymchwil sy’n awgrymu bod strwythur a chyfeiriad canfyddedig optometreg o ran gwerthu sbectolau yn annog y gymuned i ystyried bod profion llygaid (a gynhelir mewn siopau) yn wahanol i gamau gwarchod iechyd sylfaenol eraill.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5009 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r datblygiadau a wireddwyd gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella gofal iechyd y llygaid;

2. Yn cydnabod bod yna fwy o waith i’w wneud ac y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd y llygaid mwy gwybodus;

3. Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith hwn ac yn adeiladu arno;

4. Yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae modd eu hosgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid sy’n cael ei gyhoeddi yn sicrhau bod pob plentyn pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cael profion golwg yn yr ysgol

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

13/06/2012 - Debate on the Mental Health Strategy

Dechreuodd yr eitem am 17:40

NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.

Gallwch weld Law yn Llaw at Iechyd Meddwl drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/mhealth/?skip=1&lang=cy

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno toriadau termau real i’r gyllideb iechyd yn y flwyddyn ariannol bresennol, ac yn mynegi pryder y gallai'r rhain amharu ar weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau iechyd meddwl hefyd;  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol hirdymor yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr anogir cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5005 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Strategaeth Iechyd Meddwl ddrafft, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy’n destun ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.

Yn cydnabod y manteision economaidd posibl y byddai Strategaeth Iechyd Meddwl effeithiol yn eu cynnig i Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddatblygu data gwaelodlin priodol a dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau y gellir mesur unrhyw gynnydd yn erbyn y Strategaeth Iechyd Meddwl.

Yn cydnabod yr angen i holl Weinidogion Cymru ymwneud yn llawn â’r broses o gyflwyno’r Strategaeth Iechyd Meddwl, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu prosesau cadarn i sicrhau bod Gweinidogion yn atebol am eu cyfraniad tuag at wella lles ac iechyd meddwl yng Nghymru.

Yn cydnabod y gall cleifion â chyflyrau corfforol hirdymor fod â phroblemau iechyd meddwl hefyd.

Yn cydnabod y gwaith ymchwil a wnaed gan y King’s Fund sy’n nodi y gall problemau iechyd corfforol a meddyliol sy’n cydfodoli arwain at gyfraddau uwch o bobl yn cael eu hanfon i’r ysbyty, mwy o ddefnydd ar wasanaethau cleifion allanol, a dulliau hunan-reoli llai effeithiol gan gleifion.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y cysylltiad rhwng problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol hirdymor yn cael ei gynnwys yn strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ac yr anogir cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am iechyd meddwl a chorfforol cleifion er mwyn gwella canlyniadau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

13/06/2012 - Debate on the Green Paper on Future Electoral Arrangements for the National Assembly for Wales

Dechreuodd yr eitem am 16:57.

NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol: a

2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gallwch weld y Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.swyddfa.cymru.gov.uk/files/2012/05/Papur-Gwyrdd-ar-drefniadau-etholiadol-Cynulliad-Cenedlaethol-Cymru-ir-dyfodol2.pdf

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

9

0

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Llywodraeth Lafur flaenorol y DU wedi gwneud newidiadau i drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb geisio caniatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

9

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai yr eir ati i gynyddu cymesuredd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

10

35

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r bwriad i ganiatáu i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac mewn rhanbarth yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

9

25

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5006 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r dyfodol: a

2. Yn credu na ddylai Llywodraeth y DU gyflwyno unrhyw newidiadau i’r trefniadau etholiadol presennol heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

3. Yn nodi mai Ysgrifennydd Gwladol Cymru sydd â’r pwer, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i wneud darpariaethau ynghylch etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

1

6

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

30/05/2012 - Debate on Her Majesty The Queen's Diamond Jubilee

Dechreuodd yr eitem am 16:45

NDM4997 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn llongyfarch Ei Mawrhydi’r Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Ddiemwnt ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 60 mlynedd diwethaf.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

‘, gan gydnabod cyfraniad anferth Ei Mawrhydi’r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol at y sectorau elusennol a gwirfoddol yma yng Nghymru’.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4997 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn llongyfarch Ei Mawrhydi’r Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Ddiemwnt ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 60 mlynedd diwethaf, gan gydnabod cyfraniad anferth Ei Mawrhydi’r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol at y sectorau elusennol a gwirfoddol yma yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig, wedi’i ddiwygio,  yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

23/05/2012 - Debate on the results of the 'Natural Resources Wales' consultation

Dechreuodd yr eitem am 16:35

NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad “Adnoddau Naturiol Cymru” ar gael drwy fynd i:

http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/singlebody/?skip=1&lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd gweddill y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr achos busnes dros yr uno wedi’i gyhoeddi cyn ymgynghori ar nodau’r un corff amgylcheddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff amgylcheddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-archwilio prif nodau ac amcanion strategol yr un corff amgylcheddol er mwyn cael sicrwydd ac eglurder llwyr yn eu cylch.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

5

39

58

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y sefydliad newydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir hwnnw.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.

Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff amgylcheddol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y sefydliad newydd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir hwnnw.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

16/05/2012 - Debate on The Welsh Government's Active Travel Policy

Dechreuodd yr eitem am 15.41

NDM4982 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  

Yn ystyried polisïau teithio llesol Llywodraeth Cymru, a photensial teithio llesol o ran mynd i’r afael â thlodi, gwella iechyd y cyhoedd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder nad yw Cymru, ar hyn o bryd, ar y llwybr cywir i gyrraedd targedau allweddol a gaiff eu diffinio yng Nghynllun Gweithredu Cerdded a Beicio Llywodraeth Cymru.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrian De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r sylwadau a wnaeth Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, y bu cynnydd y Llywodraeth yn ansicr o ran annog newid ymddygiad tuag at ddewisiadau teithio doethach.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar effaith gronnol ei mentrau teithio llesol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau cerdded a llwybrau beicio lleol wedi’u cysylltu â’i gilydd a chanolfannau teithio eraill er mwyn creu llwybrau rhanbarthol a chenedlaethol hyfyw.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid ei gwneud yn orfodol i bob datblygiad cynllunio mawr ystyried yr angen am fynediad rhwydd i gerddwyr a beicwyr.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

16/05/2012 - Debate on Together for Health – Six Month Progress Report

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  

Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd”

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

“ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a

b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i ad-drefnu ysbytai.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd gweddill y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod agenda Llywodraeth Cymru, ‘Law yn Llaw at Iechyd’ yn cynnwys cynlluniau i leihau nifer y safleoedd ysbytai sy’n darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24/7 o dan law meddyg ymgynghorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

23

44

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y consensws trawsbleidiol yn erbyn israddio ysbytai lleol a gwasanaethau iechyd ar draws Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

24

45

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 4.

 Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4981 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:  

Yn nodi’r cynnydd wrth weithredu “Law yn Llaw at Iechyd” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dangos atebolrwydd llwyr am y GIG; a

b) amlinellu’n glir y rhesymau ariannol a chlinigol dros unrhyw gynigion i ad-drefnu ysbytai.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi manylion llawn unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarpariaethau gwasanaethau’r GIG o ganlyniad i ‘Law yn Llaw at Iechyd’, cyn gynted â phosibl er mwyn gallu hwyluso trafodaethau deallus yn lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

10

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

02/05/2012 - Debate on Research and Innovation in Health and Social Care

Dechreuodd yr eitem am 17.00

NDM4967 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i gyllido a buddsoddi’n ddigonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn gwireddu a gweithredu manteision unrhyw ymchwil newydd, ac yn gresynu y bydd toriadau mewn termau real i gyllidebau’r GIG yng Nghymru yn rhwystro hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

41

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am fuddsoddiad ychwanegol mewn canolfannau ymchwil yng Nghymru er mwyn denu’r deallusion gorau o bedwar ban byd a chynyddu’r potensial am gydweithio gwerth uchel gyda phartneriaid diwydiannol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod rôl y Sector Addysg Uwch o ran darparu ymchwil o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau arloesol i ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd yn Felindre, fel therapi ymbelydredd a arweinir gan ddelweddau a radiotherapi abladol stereotactig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4967 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod ymchwil ac arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i iechyd, lles a chyfoeth pobl yng Nghymru.

Yn galw am fuddsoddiad ychwanegol mewn canolfannau ymchwil yng Nghymru er mwyn denu’r deallusion gorau o bedwar ban byd a chynyddu’r potensial am gydweithio gwerth uchel gyda phartneriaid diwydiannol.

Yn cydnabod rôl y Sector Addysg Uwch o ran darparu ymchwil o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i ddarparu atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiadau arloesol i ddigwydd yn y gwasanaeth iechyd yn Felindre, fel therapi ymbelydredd a arweinir gan ddelweddau a radiotherapi abladol stereotactig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

02/05/2012 - Debate on The Welsh Government's Food Strategy - the way forward

Dechreuodd yr eitem am 16:02.

NDM4966 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu’i gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer bwyd yng Nghymru;
b) adolygu ac adnewyddu’r strategaeth fwyd bresennol;

c) cefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi.

Mae Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru – Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 ar gael drwy’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/foodandfisheries/foodandmarketdevelopmentpubs/foodstratdoc/?skip=1&lang=cy

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -  William Graham (Dwyrain De Cymru)

Yn is-bwynt 1a), dileu’r gair “uchelgeisiol”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

36*

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

*Cafodd canlyniadau’r bleidlais hon eu cywiro ar 14 Mai 2012 i adlewyrchu Cofnod y Trafodion.

Gwelliant 2 -  William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithrediad llawn Pecyn Llaeth yr UE oni ellir dod i gytundeb gwirfoddol ar god ymarfer ar gyfer contractau llaeth rhwng y partïon perthnasol yn y gadwyn gyflenwi llaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

35

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Ni chofrestrwyd pleidlais Ann Jones ar welliant 2 oherwydd nam technegol.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a gwella cynaliadwyedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i israddio’r portffolio Materion Gwledig a'r effaith negyddol y gallai hyn ei chael ar ei gallu i gyflawni’r strategaeth fwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4966 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) ddatblygu’i gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer bwyd yng Nghymru;

b) adolygu ac adnewyddu’r strategaeth fwyd bresennol;

c) cefnogi’r diwydiant cynhyrchu bwyd drwy ddatblygu, hyrwyddo a marchnata bwyd o Gymru, a chryfhau cysylltiadau’r gadwyn gyflenwi;

d) yn dathlu bod gan gynnyrch o Gymru enw da o’r radd flaenaf ac yn annog siopwyr i werthu rhagor o fwyd o Gymru;

e) yn croesawu’r cyfraniad pwysig cynyddol a wneir gan fwyd o Gymru i’r sector twristiaeth gynaliadwy, yn enwedig drwy feithrin ‘naws am le’;

f) yn nodi pwysigrwydd bwyd yn eu tymor ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog defnyddwyr i brynu rhagor o gynnyrch yn eu tymor er mwyn hybu bwyd o Gymru a gwella cynaliadwyedd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

13

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

25/04/2012 - Debate on The Climate Change Strategy for Wales: First Annual Progress Report

Dechreuodd yr eitem am 17.13

NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf; a

(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder:

a) bod y duedd mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 1990/2009 yn yr adroddiad yn awgrymu na chyrhaeddir darged 2020 o sicrhau gostyngiad o 40 y cant; a

b) mai ar hyn o bryd, dim ond o ganlyniad i’r dirywiad economaidd y mae’n bosibl cyflawni’r targed o 3 y cant o ostyngiad blynyddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd camau digonol i gyrraedd ei tharged allyriadau o 3 y cant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4960 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

(a) Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd: Adroddiad Cynnydd Blynyddol Cyntaf;

(b) y camau sy’n cael eu cymryd i wireddu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd;

(c) yn credu y bydd creu swyddi gwyrdd carbon isel, cynaliadwy yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd;

(d) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiweddaru Ôl-Troed Ecolegol Cymru ac i fabwysiadu mesur ar ddefnydd o allyriadau er mwyn mesur yn llawn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio o wledydd eraill yn y byd;

(e) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ymestyn y cynllun Arbed fel yr awgrymwyd gan y Comisiwn yn yr adroddiad; a

(f) yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a fydd yn cael effaith ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

28/03/2012 - Debate: Draft Children's Rights Scheme for approval under the Rights of Children and Young Persons (Wales) Measure 2011

Dechreuodd yr eitem am 15.55

NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:

Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Mawrth 2012.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4950 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011:

Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant drafft a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Mawrth 2012.

Yn gresynu nad yw’r cynllun yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn adrodd i’r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar gydymffurfio â’i dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.

Yn gresynu nad yw’r cynllun yn cynnig cyfleoedd cryfach ar gyfer herio’n briodol os ystyrir nad yw Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i’r CCUHP.

Yn gresynu nad yw’r Cynllun yn darparu ar gyfer mecanwaith adrodd cadarnach sy’n mynnu bod Gweinidogion Cymru’n adrodd yn amlach i’r Cynulliad.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

21/03/2012 - Debate: The Welsh Government's strategic agenda for science and innovation - "Science for Wales"

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn gyffredinol’.  

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i fynd i ddysgu pynciau STEM.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen Fframwaith yr UE i wneud hyn.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru.

Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10.

Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau Safon Uwch yn gyffredinol’.  

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i fynd i ddysgu pynciau STEM.

Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen Fframwaith yr UE i wneud hyn.

Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd.

Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

21/03/2012 - Dadl: Adroddiad Blynyddol 2010-2011 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN)

Dechreuodd yr eitem am 15:34.

NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.’

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4 disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o dan eu gwir oedran.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi ‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

39

57

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn ffurfiol, yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

39

57

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

23

0

57

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud  i fynd i’r afael â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed lle mae ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu neu’r dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion ‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn anghyson.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

39

57

Gwrthodwyd gwelliant 11.

Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y byd erbyn 2015.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

39

57

Gwrthodwyd gwelliant 12.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.

Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.’

Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4 disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o dan eu gwir oedran.

Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi ‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant.

Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion.

Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru.

Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim.

Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion ‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

14/03/2012 - Debate: Welsh Language Strategy 2012 - 17

Dechreuodd yr eitem am 16.20

NDM4935 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi’i chyhoeddi; a

2. Yn nodi ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi’r strategaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

9

29

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad diwethaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys mesurau i adfywio'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei rhaglen ddeddfwriaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

29

55

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i wireddu'r strategaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

29

55

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4935 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi’i chyhoeddi;

2. Yn nodi ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith;

3. Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad diwethaf;

4. Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; a

5. Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i wireddu'r strategaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

14/03/2012 - Debate: Housing Benefit Reform

Dechreuodd yr eitem am 15.15

NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru;

2. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 [Os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, caiff gwelliannau 2 a 4 eu dad-ddethol]

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai, sy'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg a gafodd ei adael gan y Llywodraeth Lafur flaenorol.

2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnwys cymorth tai mewn Credyd Cynhwysol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

38

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

13

4

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

13

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4  - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

‘, ond yn credu ei bod yn amser rhoi'r gorau i siarad â Rhanddeiliaid ac yn amser dechrau modelau cyflenwi da'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

38

55

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5  - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai yn dangos mewn rhai ardaloedd bod Budd-dal Tai yn gallu cefnogi cwsmeriaid i fyw mewn llety na all nifer o bobl sydd mewn gwaith ei fforddio, ac yn dadlau bod angen rhagor o ddiwygiadau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

38

55

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel.

2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai.

3. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

17

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

07/03/2012 - Debate on the Supplementary Budget

Dechreuodd yr eitem am 16.42

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4914 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

·         nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

21

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

28/02/2012 - Debate on The Equality and Human Rights Commission Wales' Annual Report

Dechreuodd yr eitem am 16.44.

NDM4921 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid’.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am adroddiad diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yng Nghymru wedi lledu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol, sy'n nodi bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trosedd na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â materion fel aflonyddu mewn cysylltiad ag anabledd a throseddau casineb anabledd.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r pryder a fynegwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'An Anatomy of Economic Inequality in Wales’, fod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau A*-C mewn pynciau craidd o’i gymharu â’u cyd-ddisgyblion, ac yn croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n ceisio gwella’r sefyllfa hon.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

12

0

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4921 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid’.

2. Yn mynegi pryder am adroddiad diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yng Nghymru wedi lledu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

3. Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol, sy'n nodi bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trosedd na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â materion fel aflonyddu mewn cysylltiad ag anabledd a throseddau casineb anabledd.

4. Yn nodi’r pryder a fynegwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 'An Anatomy of Economic Inequality in Wales’, fod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau A*-C mewn pynciau craidd o’i gymharu â’u cyd-ddisgyblion, ac yn croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n ceisio gwella’r sefyllfa hon.  

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

28/02/2012 - Debate on The Draft International Health Framework

Dechreuodd yr eitem am 16.00.

NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd at yr Aelodau drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012; a

2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:

a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd ryngwladol; a

b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o amlygrwydd y tu hwnt i’n ffiniau.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud toriadau o 8.4 y cant mewn termau real i GIG Cymru ac y gallai hyn lesteirio’i allu i greu mwy o gysylltiadau rhyngwladol a’u gwella.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

41

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â rhanbarthau a gwledydd y byd sy’n cyflawni’r canlyniadau iechyd gorau oll.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

9

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd at yr Aelodau drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012;

2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:

a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd ryngwladol; a

b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o amlygrwydd y tu hwnt i’n ffiniau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf; a

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

21/02/2012 - Debate on The Police Settlement

Dechreuodd yr eitem am 16.54

NDM4916 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad TerfynolAwdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2012.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y bleidlais:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig.

21/02/2012 - Debate on Approaches to Regeneration

Dechreuodd yr eitem am 15.56

NDM4915 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn adfywio economi cymuned.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant a oedd yn weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i hagenda adfywio yn gweithio, ac y bydd yn rhaid i'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol fod yn bartneriaid gwirioneddol o ran strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio cymunedol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

7

29

52

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4915 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw.

Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn adfywio economi cymuned.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

12

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

08/02/2012 - Dadl ar: Hwyluso’r Drefn – ffordd newydd o reoleiddio yn y Diwydiant Amaeth

Dechreuodd yr eitem am 16.26

NDM4907 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi "Hwyluso’r Drefn – Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes Ffermio”

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 -  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu ‘nodi’ a rhoi 'croesawu' yn ei le.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’n rheolaidd y wybodaeth ddiweddaraf am ei chynnydd at gyflawni pob un o’r 74 o argymhellion yn unol â’r amserlenni ym mharagraff 17.1 o’r Adroddiad.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod y “Dylid ystyried unrhyw beth yn llai na’r canlyniadau hyn yn fethiant oni bai bod polisïau wedi pennu bod canlyniad gwahanol yn ddymunol.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

29

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi barn yr adroddiad bod Glastir wedi cael ei “gyflwyno’n rhy gynnar ac yn frysiog cyn bod cyfle i ddatblygu manylion polisi’r rhaglen yn iawn mewn partneriaeth go iawn gyda rhanddeiliaid.”  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

37

55

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4907 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu "Hwyluso’r Drefn – Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes Ffermio”.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’n rheolaidd y wybodaeth ddiweddaraf am ei chynnydd at gyflawni pob un o’r 74 o argymhellion yn unol â’r amserlenni ym mharagraff 17.1 o’r Adroddiad.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

08/02/2012 - Dadl ar: Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn trawsnewid perfformiad ysgolion, a

2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:

Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â rheol Sefydlog 12.36

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym Mhwynt 2: Dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

9

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod natur ddewisol y cymhwyster gradd Meistr yn golygu efallai na fydd anghenion hyfforddi’r holl athrawon newydd gymhwyso wedi cael sylw llawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

2

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

7

31

56

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.

2. Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.

3. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

01/02/2012 - Dadl ar y Strategaeth Microfusnesau

Dechreuodd yr eitem am 17.24

NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu polisi a strategaeth Microfusnes.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig:

Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 microfusnes yng Nghymru ac yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

30

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod yr adroddiad “Prynu’n Ddoethach ar Adegau Mwy Anodd” yn cynnwys amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac mae hynny’n atal microfusnesau rhag cystadlu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

31

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar ficrofusnesau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n effeithio ar ficrofusnesau; a

b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

7

25

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu polisi a strategaeth Microfusnes.

Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

01/02/2012 - Debate on the National Transport Plan

Dechreuodd yr eitem am 16.29

NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf economaidd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar goridor yr M4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

32

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

32

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

13

5

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

14

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu capasiti’r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

32

50

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

2

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf economaidd.

Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd.

Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn.

Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

25/01/2012 - Debate on European Programmes

Dechreuodd yr eitem am 16.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt c), dileu popeth ar ôl ‘ymhellach,’ a  rhoi yn ei le:

‘a'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy gyflawni Rhaglenni Ewropeaidd yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl Cymru'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod efallai nad yw polisi Ewropeaidd y DU er budd gorau Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r capasiti i gyflwyno sylwadau’n uniongyrchol i sefydliadau’r UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

13

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r newid arfaethedig i fonitro canlyniadau yn hytrach nag allbynnau a’r cyfle y gallai hyn ei greu i wella effaith y cylch nesaf o ariannu strwythurol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy’n weddill yn y cylch ariannu presennol yn cael ei dargedu at gynlluniau sy’n creu swyddi cynaliadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4897 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi:

a) cynigion deddfwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni Gwledig a Physgodfeydd;

b) ‘cyfnod ystyried’ Llywodraeth Cymru sy’n ceisio barn rhanddeiliaid ynghylch y blaenoriaethau strategol ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig yng Nghymru (2014–2020);  

c) ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gryfhau cysylltiadau Cymru â sefydliadau’r UE ymhellach wrth ddatblygu a gweithredu ei Rhaglenni Ewropeaidd.

2. Yn cydnabod efallai nad yw polisi Ewropeaidd y DU er budd gorau Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r capasiti i gyflwyno sylwadau’n uniongyrchol i sefydliadau’r UE.

3. Yn croesawu’r newid arfaethedig i fonitro canlyniadau yn hytrach nag allbynnau a’r cyfle y gallai hyn ei greu i wella effaith y cylch nesaf o ariannu strwythurol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl arian sy’n weddill yn y cylch ariannu presennol yn cael ei dargedu at gynlluniau sy’n creu swyddi cynaliadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

13

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

24/01/2012 - Dadl ar Cymunedau yn Gyntaf

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y bydd yn rhaid i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd gael sylfaen llywodraethu corfforaethol effeithiol er mwyn gallu creu Mudiadau Cymunedol annibynnol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthusiad priodol yn rhan annatod o’r holl brosiectau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn mesur llwyddiant ac i allu gwneud gwelliannau yn ystod oes y prosiectau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 2.

 Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf wreiddiol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

6

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i’r casgliad ‘ni all rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ddangos gwerth am arian’.

Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwy fynd i:

http://www.assemblywales.org/cr-ld7923.pdf

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

6

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi, yn ei adroddiad ‘Regenerating Communities First Neighbourhoods’, mai gwelliannau bychain yn unig a ganfuwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Gellir gweld adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree drwy fynd i:

http://www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/communities-regeneration-Wales-full.pdf (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn cyflawni gwell canlyniadau na’i rhagflaenydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4896 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd, a fydd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi, gyda chynnwys y gymuned yn egwyddor allweddol iddi.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthusiad priodol yn rhan annatod o’r holl brosiectau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn mesur llwyddiant ac i allu gwneud gwelliannau yn ystod oes y prosiectau.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn cyflawni gwell canlyniadau na’i rhagflaenydd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

13

0

49

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

18/01/2012 - Debate on Creating Safer Communities for all - Improving the quality of life for the people of Wales

Dechreuodd yr eitem am 15.58

NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru ddiogelach i bawb.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu popeth ar ôl “iddi” a rhoi yn ei le:

ar yr agenda Diogelwch Cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan ymgysylltu’n llawn â phartneriaid i hybu agenda gynhwysol a chreu Cymru ddiogelach i bawb.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

29

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch cymunedol, er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chyflwyno cynlluniau gosod gatiau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

1

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

ond yn credu y byddai hyn yn gwella eto fyth petai plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

41

55

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru ddiogelach i bawb.

Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch cymunedol, er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chyflwyno cynlluniau gosod gatiau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

17/01/2012 - Debate on Planning Policy for Economic Development

Dechreuodd yr eitem am 16.54

NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar gyfer datblygu economaidd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod y system gynllunio’n hanfodol ar gyfer economi gref ac felly’n gresynu wrth yr oedi ar ran Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

Gyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach na’r hyn a nodwyd yn y Datganiad Deddfwriaethol, fel y gellir rhoi agwedd strategol ond syml ar waith mewn canllawiau ar draws yr holl sectorau polisi er mwyn gwella'r economi a lles pobl Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

36

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Bil Cynllunio’n gynharach nag a nodwyd yn ei datganiad deddfwriaethol, ac i ymgynghori’n eang arno, er mwyn helpu i ddiwallu anghenion datblygu economaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

29

55

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar gyfer datblygu economaidd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd y cynnig.

11/01/2012 - Debate on the Local Government Settlement

Dechreuodd yr eitem am 15.29

NDM4881 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Cynghorau), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2011.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y bleidlais:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

10

12

56

Derbyniwyd y cynnig.

11/01/2012 - Debate on European Programmes

Dechreuodd yr eitem am 16.00

NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfraniad cadarnhaol y mae Rhaglenni Ewropeaidd cyfredol a blaenorol yn ei wneud ac wedi’i wneud;

2. Yn croesawu’r rôl hanfodol y mae arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol, yn ei chwarae o ran cefnogi economi Cymru;

3. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;

4. Yn nodi â phryder benderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati unwaith eto i chwarae rôl ganolog yn yr UE er mwyn hybu buddiannau ehangach Cymru a rhannau eraill y DU wrth lunio polisi a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu bod un Llywodraeth Cymru ar ôl y llall wedi methu â manteisio i’r eithaf ar botensial rhaglenni’r UE a bod rhannau o Gymru’n dal i fod ymysg y tlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

40

56

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y cant o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 1 ar ôl ‘wedi’i wneud’ rhoi ‘ond hefyd yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r rhaglenni hynny’n effeithiol i wella ffyniant economaidd cymharol Cymru’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

30

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 -  Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi Ewropeaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

4. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod y trafodaethau ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011 ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth y DU i weithredu er budd gorau pobl Cymru a Phrydain yn nhrafodaethau cyllido’r UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

45

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ym mhwynt 4 dileu ‘yn mynd ati unwaith eto i chwarae’ a rhoi ‘yn chwarae’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Llywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol er mwyn gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf ar fuddiannau rhaglenni’r UE i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4882 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r cyfraniad pwysig a wnaethpwyd gan Raglenni Ewropeaidd ac yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd y farchnad Ewropeaidd i’n heconomi, gyda 39.9 y cant o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE;

2. Yn croesawu’r rôl hanfodol y mae arian Ewropeaidd, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r Cronfeydd Strwythurol, yn ei chwarae o ran cefnogi economi Cymru;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu buddiannau cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â’r trafodaethau ar raglenni Ewropeaidd a pholisi Ewropeaidd;

4. Yn cydnabod bod chwarae rhan lawn a rhagweithiol o fewn yr UE yn dod â manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar wahân i’r rheini sy’n deillio o’r Rhaglenni Ewropeaidd;

5. Yn nodi â phryder benderfyniad Llywodraeth y DU i arfer ei feto yn ystod trafodaethau’r UE ym Mrwsel ar 9 Rhagfyr 2011ac yn annog Llywodraeth y DU i weithio mewn ffordd adeiladol gydag Aelod-wladwriaethau eraill i sicrhau bod y DU yn mynd ati unwaith eto i chwarae rôl ganolog yn yr UE er mwyn hybu buddiannau ehangach Cymru a rhannau eraill y DU wrth lunio polisi a gweinyddu Rhaglenni Ewropeaidd, yn ogystal ag wrth ddatblygu ymhellach bolisïau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Ewropeaidd.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol er mwyn gweithio er budd cenedlaethol Cymru ac i fanteisio i’r eithaf ar fuddiannau rhaglenni’r UE i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

11

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

07/12/2011 - Debate on Public Health Challenges – Tobacco Control

NDM4871 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;

2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:

a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a

b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.

Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon at yr Aelodau drwy e-bost ar 29 Tachwedd 2011.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

2

42

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

1

12

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4871 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;

2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:

a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a

b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.

4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

1

2

56

Derbyniwyd y cynnig.

30/11/2011 - Debate on CAP Reform

NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU i wrthwynebu ‘gwyrddio’ Colofn 1.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

23/11/2011 - Debate on Benefits of Sharing Personal Health and Social Services Information

NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu y bydd cynigion cyllideb ddrafft cyfredol Llywodraeth Cymru yn methu â rhoi digon o gyllid ar gyfer caffael systemau technoleg i fanteisio’n llawn ar rannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

5

38

55

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

5

0

55

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.

Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

16/11/2011 - Debate on Sustainable Social Services

Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn.

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu ‘mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd’ a rhoi yn ei le ‘bod gan yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu y potensial’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ac atebol a bod hyn yn hollbwysig er mwyn gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth gynigion Llywodraeth Cymru i dorri 5.9 y cant oddi ar Gyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real rhwng 2011/12 a 2012/13.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

5

27

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r defnydd a wneir o gyllidebau personol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal er mwyn iddynt dderbyn rhaglen ofal sy'n addas i angen personol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

35

52

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4848 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

2. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, gan gynnwys y trefniadau arwain newydd a roddwyd ar waith.

3. Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel blaenoriaeth ar gyfer gweithredu.

4. Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a byrddau iechyd lleol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

52

0

0

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

16/11/2011 - Debate on the Draft Budget

Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwrthod cefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Hydref 2011 gan y Gweinidog Cyllid, ar y sail nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â'r canlynol:

a) y pwysau ariannol y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei wynebu;

b) yr argyfwng economaidd sy’n gwaethygu;

c) y pwysau ariannol y mae ysgolion yn ei wynebu er mwyn diwallu anghenion plant difreintiedig; a

d) y pwysau ariannol ar brosiectau cyfalaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

29

58

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4847 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 4 Hydref 2011.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

29

58

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

08/11/2011 - Debate on S4C

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

08/11/2011 - Debate on the Older People's Commissioner Annual Report

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r Comisiynydd”.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru

a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn, sy’n:

i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn ysbyty; a

ii) hyrwyddo byw'n annibynnol.

b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer iechyd ataliol.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM4841 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hyn ar gyfer 2010/11, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2011.

Yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau i warchod pobl hŷn sydd mewn perygl o niwed neu sy’n methu ag ymdopi; ac i ddiogelu eu hurddas.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau a nodwyd yn “Galwadau’r Comisiynydd”.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth eiriolaeth cynhwysfawr a chyson ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru

a) werthuso cynlluniau lleol, wedi’u hanelu at gynorthwyo pobl hŷn, sy’n:

i) eu hannog i fabwysiadu ffyrdd iach o fyw ac yn eu galluogi i fyw’n ddiogel mewn cymuned gefnogol, a thrwy hynny osgoi gorfod aros yn ddiangen mewn ysbyty; a

ii) hyrwyddo byw'n annibynnol.

b) ymgorffori’r arfer gorau mewn cynllun gweithredu Cymru gyfan ar gyfer iechyd ataliol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

01/11/2011 - Debate on the Annual Report of the Children's Commissioner for Wales

NDM4836 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2010-11 ac yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol iddo erbyn 31 Mawrth 2012.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y pryder a godwyd gan y Comisiynydd Plant:

a) nad yw strategaethau’n gweithio gyda’i gilydd nac yn gweithio ar lawr gwlad i wella bywydau plant;

b) nad yw polisi na chyfraith genedlaethol yn cael eu gweithredu’n gyson; ac

c) bod llinellau atebolrwydd yn annelwig, ac na chadwir at addewidion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

28

56

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

28

56

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu darparu ymateb i’r adroddiad cyn 31 Mawrth. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

28

56

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod amserlenni clir ar gyfer cyflawni pwyntiau gweithredu yn ei hymateb i’r Adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

28

56

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4836 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2010-11 ac yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol iddo erbyn 31 Mawrth 2012.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig.

19/10/2011 - Debate on the Qualifications Review

NDM4831 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi y bydd yr Adolygiad o Gymwysterau yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein system cymwysterau yn ddealledig, yn cael ei gwerthfawrogi a’i bod yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac anghenion economi Cymru.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Rhoi ar ôleconomi Cymru’:

ac yn benodol sicrhau mai dim ond i fyfyrwyr sydd â’r lefelau llythrennedd a rhifedd priodol y dyfernir cymwysterau’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

14

57

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 -  William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y system gymwysterau bresennol wedi mynd yn gymhleth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

33

57

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder bod cwmpas yr adolygiad yn eang.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

43

57

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4831 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi y bydd yr Adolygiad o Gymwysterau yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod ein system cymwysterau yn ddealledig, yn cael ei gwerthfawrogi a’i bod yn bodloni anghenion ein pobl ifanc ac anghenion economi Cymru  ac yn benodol sicrhau mai dim ond i fyfyrwyr sydd â’r lefelau llythrennedd a rhifedd priodol y dyfernir cymwysterau.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd y cynnig.

11/10/2011 - Debate on Corporate Parenting Responsibilities for Looked After Children

NDM4819 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn her barhaus; a

2) Yn cydnabod pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod y Wladwriaeth, yn rhy aml, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau bywyd plant unwaith y byddant mewn gofal.

Gellir gweld canfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.centreforsocialjustice.org.uk/default.asp?pageRef=316

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 24

0

28

52

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r diffygion mewn darparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru.

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.complantcymru.org.uk/cy/rhestr-cyhoeddiadau/

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio dichonoldeb cyflwyno Bwrsariaeth Cenedlaethol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn cefnogi plant sy’n derbyn gofal sy’n mynd ymlaen i Addysg Uwch.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu mai dim ond 1 plentyn o bob 10 sy’n gadael gofal sy’n cael 5 TGAU gradd A* i C.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau byw a ffïoedd dysgu llawn plant oedd yn derbyn gofal sy’n fyfyrwyr mewn prifysgol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 5

11

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y ddyletswydd gofal i 21 oed, pa un a yw’r plentyn yn aros mewn addysg ai peidio, er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4819 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn her barhaus; a

2) Yn cydnabod pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

 53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig.

05/10/2011 - Debate on the Sustainable Development Annual Report

NDM4813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth Cymru byth wedi prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn llawn yn y ffordd mae’n gweithio ac yn datblygu polisïau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu gweledigaeth strategol well o sut caiff datblygu cynaliadwy ei wreiddio ar draws strategaethau, polisïau a chynlluniau unigol a sut maent yn cyfuno i gyfrannu at gynnydd mesuradwy yn erbyn y Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy.

Gellir gweldDangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno camau cywiro ar frys i adfer y 22 Dangosydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2011 sydd wedi dirywio neu nad ydynt wedi gwella.

Gellir gweldDangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

38

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

10

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y ddogfenDangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011" yn dangos bod y Llywodraeth wedi symud ymlaen gydag oddeutu hanner ei dangosyddion ond yn gresynu ei bod yn dangos y bu dirywiad clir mewn dangosyddion ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr a newidiadau tymor byr mewn poblogaeth adar.

Gellir gweldDangosyddion Datblygu Cynaliadwy 2011” drwy ddilyn y linc canlynol: http://wales.gov.uk/topics/statistics/headlines/sustaindev/110830/?skip=1&lang=cy

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

1

39

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod yn rhaid i ddatblygu cynaliadwy gynnwys lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o ffynonellau domestig, ac yn galw am gynnydd yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

39

52

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i gomisiynu archwiliad annibynnol o’i pholisïau i hybu datblygu cynaliadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

39

53

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

10

53

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4813 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar ddatblygu cynaliadwy yn 2010-11, fel y nodir yn Adroddiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Medi 2011.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n llawn yr argymhellion a wnaethpwyd yn yr Adroddiad Blynyddol gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy a Cynnal Cymru.

Yn croesawu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan awdurdodau lleol tuag at dargedau ailgylchu

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

28/09/2011 - Debate on Public Services Reform

NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu “Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda”

a rhoi yn ei le

“Yn nodi agenda Llywodraeth Cymru”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder cyhoeddiadau blaenorol Llywodraeth Cymru am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan leihau'r galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y gwasanaeth cyfan a chyd-gynhyrchu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a Lloegr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

46

11

0

57

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder ddull gweithredu anghyson Llywodraeth Cymru o ran cydweithio wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei gwneud yn glir ac yn credu y dylai ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach nag ar y broses o ddiwygio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan leihau'r galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y gwasanaeth cyfan a chyd-gynhyrchu.

Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a Lloegr.

Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

57

0

0

57

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

21/09/2011 - Dadl ar Wasanaethau Mamolaeth

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru: ac

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 1.  

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

Y byddai llai o gyfleoedd i gael Gwasanaethau Mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn arwain at fwy o risg i famau a babanod.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 2. 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y pryder sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i warantu darpariaeth gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn ysbytai cyffredinol dosbarth yn y Gogledd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd gwledig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai yn Lloegr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw llefydd ar gyfer hyfforddiant bydwreigiaeth yng Nghymru, er mwyn darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun cyflenwi terfynol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth er mwyn ei drafod, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun terfynol ar sut y bydd yn gweithredu ei gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth, yn cynnwys nodau clir a chanlyniadau mesuradwy, er mwyn ei drafod.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) Amlinellu’r ffordd y mae’n bwriadu dal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif a’r mesurau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod BILl yn cyrraedd targedau mamolaeth yn y dyfodol; a
b) Gweithio gyda BILl wrth recriwtio a chadw staff meddygol fel bod pob BILl:
(i) bodloni’r safon Birthrate plus ar gyfer trefniadau staffio bydwragedd;
(ii) yn cyflawni’r lefelau staffio a argymhellir gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ar gyfer nyrsio gynaecolegol; a
(iii) yn meddu ar wasanaeth mamolaeth sy’n bodloni’r safonau ansawdd cenedlaethol drwy’r amser.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru: ac

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn credu:

a) y dylai gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru gael eu trefnu i ddiwallu anghenion menywod a'u babanod;

b) y dylai popeth posibl gael ei wneud i ddiogelu a gwella iechyd menywod a'u babanod; ac

c) y dylai beichiogrwydd a geni plant fod yn brofiad diogel sy'n gwella ac yn cyfoethogi bywyd.

3. Yn cydnabod y pryder sylweddol ymysg y cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn y Gogledd.

4. Yn cydnabod pwysigrwydd mynediad prydlon at wasanaethau mamolaeth brys mewn ardaloedd gwledig.

5. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau mamolaeth a ddarperir i gleifion o Gymru gan ysbytai yn Lloegr.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal a chadw llefydd ar gyfer hyfforddiant bydwreigiaeth yng Nghymru, er mwyn darparu lefel gynaliadwy o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y rheini sy’n gweithio yn y gwasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

11

0

55

13/07/2011 - Debate on domestic abuse

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymhellach:

a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;

b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig ac ar welliant 2 o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

13

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

NDM4784 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel; ac

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch unigolion a'u teuluoedd sy'n destun cam-drin domestig ac i roi cefnogaeth iddynt.

3. Yn nodi ymhellach:

a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant;

b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig.

04/07/2011 - Debate on Fairer Funding for Wales

NDM4776 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r consensws cyffredinol sy’n bodoli yng nghymdeithas sifig Cymru nad yw’r setliad ariannol datganoledig ar gyfer Cymru yn addas i’r diben bellach, a’i fod er mwyn cefnogi’r consensws hwnnw:

a) Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau un pecyn cydlynol o ddiwygiadau i setliad ariannol Cymru ac yn cytuno bod yn rhaid i setliad o’r fath gynnwys:

i) cyfundrefn ariannu decach, sy’n ymgorffori llawr Holtham, a diwygio fformiwla Barnett yn ehangach;  

ii) datganoli pwerau benthyg i ariannu buddsoddiadau cyfalaf a’r hawliau i godi arian cyfalaf;

b) Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â diwygio ariannol i Gymru;  

c) Yn annog y dylid dechrau’n fuan ar drafodaethau pendant rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gadarnhaol ym mhob agwedd ar y trafodaethau hynny, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid cryfhau atebolrwydd ariannol, yn unol ag argymhellion Rhan 2 o adroddiad Comisiwn Holtham o ran cyfrifoldebau cyllidol priodol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

04/07/2011 - Debate on Improving School Standards

NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion;

b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion;

c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad ar 2 Chwefror 2011.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr Uned Safonau Ysgolion yn atebol, yn deg, yn dryloyw ac yn cael ei monitro’n rheolaidd.

2. Yn nodi bod system bandio (categoreiddio) ysgolion yn cael ei chreu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu a chynnal y momentwm o ran symud ymlaen â’r cynllun 20 pwynt yn y datganiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar 2 Chwefror 2011, er mwyn sicrhau nad yw Cymru’n disgyn fwy ar ei hôl hi ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

29

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt b) ar ôlysgolionrhoi:

ond yn annog y Llywodraeth i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt b):

‘, ac yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r dangosyddion, y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon.’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi fformat ac arddull y profion llythrennedd a rhifedd newydd ac amlinellu faint o amser y mae’n disgwyl y bydd athrawon yn ei dreulio yn gweinyddu a marcio’r profion hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

29

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai’r ffordd fwyaf effeithiol y bydd ysgolion Cymru yn codi safonau ysgolion yw drwy gael mwy o gyllid i ysgolion, drwy gyflwyno premiwm disgybl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

39

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4775 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) Sefydlu’r Uned Safonau Ysgolion;

b) Creu system fandio (categoreiddio) ar gyfer ysgolion ond yn annog y Llywodraeth i osgoi camgymeriadau tablau cynghrair ysgolion yn y gorffennol ac yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi’r dangosyddion, y fethodoleg a’r strwythur graddio a ddefnyddir fel rhan o’r system hon;

c) Y cynnydd sydd wedi’i wneud ar yr 20 pwynt gweithredu ar gyfer gwella ysgolion a bennwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ei ddatganiad ar 2 Chwefror 2011.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

29/06/2011 - Debate on Front Line Resources Review

NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi'r ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru.

2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

gyda’r nod yn benodol o sicrhau bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

10

54

Derbyniwyd  gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd  gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad addysgol Cymru.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd  gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cefnogi'r ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru gyda’r nod yn benodol o sicrhau bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig.

2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen.

3. Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol.

4. Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau.

5. Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad addysgol Cymru.  

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Gwrthodwyd y cynnig.

29/06/2011 - Debate on Social Services

NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru; ac

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu’r geiriauparhau i fodloni’ a rhoibodloniyn eu lle.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

29

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Dileu pwynt 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod manteision defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle bo hynny’n briodol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

11

54

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’n gyflym y defnydd o Gyllidebau Personol ar gyfer gwasanaethau gofal.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

40

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru; ac

2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion.

3. Yn cydnabod manteision defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle bo hynny’n briodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

22/06/2011 - Debate on Higher Education Fees

NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch ran-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Dileu Yn croesawu’ a rhoiYn nodiyn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Ni chynigiwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran-amser.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog  12.36: