Penderfyniadau
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Seilwaith
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
24/09/2014 - Legislative Consent Memorandum on the Infrastructure Bill: Provisions for the Control of Invasive Non-Native Species
Dechreuodd yr eitem am 16.54
NDM5533 Alun Davies (Blaenau
Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn
y Bil Seilwaith, sy'n ymwneud â dileu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol
drwy gytundebau a gorchmynion rheoli rhywogaethau, i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.