Penderfyniadau

Cynllun Ieithoedd Swyddogol - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

16/07/2015 - Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM5818 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn nodi’r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


17/07/2014 - Debate on the Assembly Commission's Report on the Official Languages Scheme

Dechreuodd yr eitem am 15.53

 

NDM5556 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Gorffennaf 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.