Ymgynghoriad

Prosesau rhyddhau o’r ysbyty

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad

 

Byddai’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi croesawu eich sylwadau fel rhan o’i ymchwiliad i'r broses ar gyfer rhyddhau o'r ysbyty.

 

Cylch Gorchwyl:

Galwodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am dystiolaeth ynghylch:

  • Sut mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei 'fesur' (o ran niferoedd ac effaith), yr hyn y mae'r data cenedlaethol yn ei ddangos ynghylch pam mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd, prif achosion pwysau ledled Cymru ac yn ystod y flwyddyn, a’r rhesymau posibl dros amrywiadau.
  • Beth yw'r prosesau rhyddhau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, a pha mor effeithiol ydynt o ran cadw at y canllawiau SAFER ac enghreifftiau eraill o arfer da.
  • A oes seilwaith ac ymwybyddiaeth staff i sicrhau bod y prosesau hyn yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
  • Profiadau cleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff o’r prosesau rhyddhau.
  • Beth sy’n rhwystro, a beth sy’n galluogi, cyfathrebu a chydweithio effeithiol rhwng cyrff iechyd, cyrff gofal iechyd a chyrff y trydydd sector.
  • Nodi atebion a mentrau rheng flaen ymarferol sy'n gweithio, gan alluogi i gleifion gael eu rhyddhau o'r ysbyty yn effeithiol, yn briodol ac yn amserol, a sut y caiff y rhain eu cyflwyno a'u prif ffrydio.

 

Dylid anfon eich sylwadau at SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565