Ymgynghoriad

Adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: ymgynghoriad ar ran 3 o’r adolygiad

Diben yr ymgynghoriad

Yn ei gyfarfod ar 19 Medi, cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei drydedd sesiwn i drafod trydedd ran yr adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r rhan hon o’r adolygiad yn canolbwyntio ar dâl Aelodau, darpariaethau dirwyn i ben a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer Aelodau’r Cynulliad, sy’n cael sylw ym mhenodau tri a naw o’r Penderfyniad.

Mae’r Bwrdd wedi nodi nifer o feysydd yn y penodau hyn lle mae o’r farn y gallai fod angen gwneud newidiadau. Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i newid rhai o reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau. Mae manylion llawn am gynigion y Bwrdd yn y ddogfen ymgynghori.

Cylch gorchwyl

Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:

  • addasrwydd lefel y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad
  • pa mor hyblyg, rhagnodol a hygyrch yw’r darpariaethau;
  • gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.

 

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae’r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y’u cyflwynwyd, gan nodi eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.

Mae’r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio’ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r llythyr ymgynghori.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Llun 11 Tachwedd 2019.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565