Ymgynghoriad

Hawliau plant yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad byr i hawliau plant yng Nghymru er mwyn adolygu effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Bu’n ystyried:

 

  • i ba raddau y mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011  wedi dylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ei dyraniadau ariannol a ph’un a yw wedi cyflawni 'mesurau cyffredinol' y Confensiwn o weithredu;
  • tystiolaeth a yw'r Mesur wedi arwain at ganlyniadau gwell i blant a phobl Ifanc;
  • a yw'r dyletswyddau yn y Mesur wedi'u sefydlu'n effeithiol ar draws polisi a phortffolios cabinet Llywodraeth Cymru;
  • i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio sicrhau bod ei ddyletswyddau o fewn y Mesur yn cael eu cyfleu yng ngwaith y cyrff cyhoeddus y mae’n eu cyllido gan gynnwys awdurdodau lleol a chyrff y GIG;
  • i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o'r Confensiwn ymhlith y cyhoedd, gan gynnwys plant a phobl ifanc;
  • sut mae'r ddyletswydd i gael 'sylw dyledus' i'r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn yn cael ei gweithredu'n ymarferol ac a yw Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant yn cael eu defnyddio fel adnodd ystyrlon;
  • effeithiolrwydd y Cynllun Hawliau Plant ac adroddiad cydymffurfio diweddaraf Llywodraeth Cymru ac i ba raddau y maent yn dangos tystiolaeth o weithredu digonol ar ran Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Mesur yn cael ei weithredu'n llawn;
  • pa mor effeithiol y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb yn strategol i Sylwadau Cloi Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 20 Medi 2019. Medi 2019.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565