Ymgynghoriad

Ddatgarboneiddio trafnidiaeth

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

  • A yw'r targedau, y polisïau a'r cynigion ar gyfer lleihau allyriadau trafnidiaeth (a nodir yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel) yn gyraeddadwy ac yn ddigon uchelgeisiol?
  • A yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth yn ddigon arloesol, yn enwedig o ran hyrwyddo technolegau newydd?  
  • Pa gamau sydd eu hangen, a chan bwy, i gyflawni'r targedau, y polisïau a’r amcanion?
  • Sut ddylai Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru adlewyrchu'r camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth?

Dyma ofyn i chi ddefnyddio porth ar-lein.  Bydd gwneud hyn yn ein helpu i sicrhau y caiff barn pawb ystyriaeth ddigonol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y porth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor: SeneddESS@cynulliad.cymru

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn 16 Awst 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565