Ymgynghoriad

Cyllido Ysgolion yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i:

  • digonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru; a
  • sut y mae cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu a'u dyrannu.

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar:

  • digonolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yng nghyd-destun cyllidebau gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r adnoddau sydd ar gael;
  • i ba raddau y mae lefel y ddarpariaeth ar gyfer cyllidebau ysgolion yn ategu neu’n rhwystro’r gwaith o gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru;
  • y berthynas, cydbwysedd a thryloywder rhwng ffynonellau cyllid amrywiol ysgolion, gan gynnwys cyllidebau craidd a chyllid neilltuedig;
  • y fformiwla ariannu llywodraeth leol a’r pwysoliad a roddir i gyllidebau addysg a chyllidebau ysgolion yn benodol yn y Setliad Llywodraeth Leol;
  • Goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth cyn oedran gorfodol;
  • y cynnydd a'r datblygiadau ers adolygiadau blaenorol pwyllgorau'r Cynulliad (er enghraifft, rhai'r Pwyllgor Menter a Dysgu yn y Trydydd Cynulliad); ac
  • argaeledd cymariaethau rhwng cyllid addysg a chyllidebau ysgolion yng Nghymru a gwledydd eraill y DU a'r defnydd ohonynt.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565