Byddai'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth
ysgrifenedig gan randdeiliaid am unrhyw un o'r meysydd a ganlyn.
Sylwch nad oes angen ymdrin â phob pwynt, dim ond y rhai
rydych am gynnig sylwadau arnynt:
-
Hynt y gwaith o gynhyrchu fersiwn ddrafft o Gwricwlwm
Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru ei chyhoeddi a chael adborth gan y
cyhoedd ym mis Ebrill 2019;
-
Rôl yr Ysgolion Arloesi ac unrhyw gyfleoedd a
heriau sy’n eu hwynebu wrth iddynt gyfrannu at y gwaith o
gynllunio’r cwricwlwm;
-
Y sefyllfa ddiweddaraf o ran gwaith y Gweithgorau a
sefydlwyd i ymdrin â phob un o'r chwe Maes Dysgu a
Phrofiad;
-
Cyfraniad arbenigwyr academaidd ac arbenigwyr allanol
eraill yn y gwaith o gynllunio’r cwricwlwm;
-
Sut y mae datganiadau 'Beth sy'n Bwysig?’, a
gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn cael eu datblygu i greu cynnwys
y cwricwlwm ym mhob un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad;
-
Hynt y gwaith o ddiffinio canlyniadau cyflawniad wrth
symud ymlaen drwy’r gwahanol gamau yn y cwricwlwm
newydd;
-
Sut mae datblygiad Cwricwlwm newydd Cymru yn cyd-fynd
â datblygiad y cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd
i athrawon;
-
Rhoi gwybod i ysgolion ac athrawon am y gwaith
sy’n mynd rhagddo i ddatblygu’r cwricwlwm a chynnwys
pob ysgol yn y gwaith hwn (nid dim ond yr Ysgolion
Arloesi);
-
Effeithiolrwydd y trefniadau llywodraethu, rôl
y Grŵp Cynghori Annibynnol a Bwrdd Newid, a chyfraniad y
Grŵp Rhanddeiliaid Strategol ar Ddiwygio Addysg;
-
Pa mor barod yw ysgolion ac athrawon i gyflwyno'r
cwricwlwm newydd ac i ba raddau y mae cysyniadau adroddiad yr Athro
Donaldson ar ei adolygiad, Dyfodol Llwyddiannus, yn cael eu rhoi ar
brawf a’u rhoi ar waith eisoes;
-
Sut y mae’r Grŵp Cwricwlwm ac Asesu yn
sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm ar y trywydd
iawn a chanlyniad y cyfarfod a gynhaliodd ar 13 ac 14 Tachwedd 2018
i adolygu cynnydd;
-
Hynt y gwaith o ddatblygu trefniadau asesu
newydd;
-
Y camau a gymerir i sicrhau bod Cwricwlwm Cymru
newydd yn ategu blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, gan
gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Cymraeg 2050;
-
Unrhyw fater arall y mae rhanddeiliaid yn dymuno
tynnu sylw'r Pwyllgor ato.
Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe bai
rhanddeiliaid yn anfon tystiolaeth erbyn 17:00, dydd Gwener 07 Rhagfyr
2018.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â
Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn
gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y
bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad
Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog,
byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi
dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u
rhwymedigaethau statudol.
Gweler y
canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I
bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried
polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno
gwybodaeth i’r Pwyllgor.