Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
Tudalen yr
ymgynghoriad
Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a
Chwaraeon yn croesawu eich barn ar wasanaethau endosgopi yng Nghymru.
Cylch gorchwyl:
Mae'r
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth ynghylch
y camau sydd angen eu cymryd i gyflawni newid sylweddol yn y cyfraddau goroesi
ar gyfer canser y coluddyn yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 5 Tachwedd 2018.
Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd
Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn
nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y
sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o
ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA
Email: SeneddIechyd@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565