Ymgynghoriad
Creu’r Diwylliant Cywir: Ymchwiliad i’r Adolygiad o God Ymddygiad Aelodau’r Cynulliad
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2017 a Dydd Mercher, 14 Chwefror 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion wedi’i ymestyn hyd at 14
Chwefror 2018.
Mae Aelodau'r Cynulliad yn cyflawni gwaith democrataidd y Cynulliad; maent
yn cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, yn gwneud cyfreithiau i Gymru ac yn
dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. O'r herwydd, rydym yn awyddus i sicrhau bod yr
amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo yn gadarnhaol ac yn agored.
Fel senedd, rydym wedi ymrwymo i gael diwylliant sefydliadol cynhwysol,
sy'n rhoi grym i bobl ryngweithio â'r broses ddemocrataidd, yn lle
enghreifftiol i weithio ac sy'n croesawu miloedd o ymwelwyr i'w hystâd.
Nid oes unrhyw le yn ein sefydliad i ymddygiad amhriodol. Rydym am sicrhau
bod pawb yn teimlo y gallant fynegi pryderon ynghylch ymddygiad nad ydynt yn
gyfforddus ag ef gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol
Cymru. Cyhoeddodd y Llywydd, Cadeirydd y
Pwyllgor Safonau ac arweinwyr grwpiau ddatganiad
ynghylch mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad ar 15 Tachwedd
2017.
Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni'r disgwyliadau uchel yr ydym yn eu gosod
i'n hunain, ac i weithredu'r ymrwymiadau yn y datganiad, mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi
cytuno i wneud y canlynol:
- Ystyried y gweithdrefnau presennol
ynghylch cwynion* i sicrhau eu bod yn briodol ac yn glir er mwyn i unigolion deimlo y
gallant sôn am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad amhriodol gyda hyder;
- Datblygu polisi parch ac
urddas sy'n nodi nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y sefydliad
hwn; ac
- Adolygu'r cosbau sydd ar gael
i'r Pwyllgor i sicrhau bod unrhyw achosion o ymddygiad amhriodol yn cael eu trin yn briodol.
Gan fod hwn yn broblem a all effeithio ar bob agwedd ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru, byddwn yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y
Cynulliad i sicrhau bod yr un safonau'n berthnasol i bawb.
Hoffai'r Pwyllgor glywed eich barn ar y cwestiynau a ganlyn:
- A fyddech yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud
cwyn am Aelod Cynulliad neu rywun sy'n gweithio ar ystâd y Cynulliad? Os
na, pam?
- A fyddech yn gwybod sut i
wneud cwyn am Aelod Cynulliad neu rywun sy'n gweithio ar ystâd y
Cynulliad?
- A ydych yn teimlo bod unrhyw
beth yn eich rhwystro rhag codi pryderon am ymddygiad amhriodol Aelod
Cynulliad neu rywun sy’n gweithio ar ystâd y Cynulliad?
- A oes gennych unrhyw
awgrymiadau ynghylch sut y gellid symleiddio'r weithdrefn gwyno?
- A yw'r canllawiau'n glir? A
yw'r iaith a ddefnyddir yn syml i'w deall?
- A yw'r ddogfen yn eich helpu
i ddeall pwy y dylech gysylltu â hwy ynghylch gwahanol fathau o gwynion?
- Pe byddech yn profi
ymddygiad amhriodol, a fyddech yn teimlo'n hyderus yn defnyddio'r weithdrefn fel y mae ar hyn o
bryd?
Cyflwyno Tystiolaeth
Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a
Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i
ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi
neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu
cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
* Fel y
nodir yn y Cod Ymddygiad i Aelodau'r Cynulliad a'r Weithdrefn ar gyfer ymdrin â Chwynion am Aelodau'r
Cynulliad
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddSafonau@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565