Ymgynghoriad

Gwydnwch a pharodrwydd: ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i ystyried sut y mae’r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn paratoi at Brexit.

Cylch gorchwyl

Diben yr ymchwiliad oedd archwilio:

 

  • ymateb gweinyddol ac ariannol mewnol Llywodraeth Cymru i Brexit; a
  • sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, addysg uwch, y trydydd sector a'r sectorau economaidd i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Casglu tystiolaeth

Er mwyn llywio'r ymchwiliad, cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth. Yn ychwanegol at y cylch gorchwyl, gwahoddwyd yr ymatebwyr i ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Beth yw'r prif faterion sy'n wynebu eich sector o ganlyniad i’r ffaith fod y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb i'r rhain?
  • Pa gyngor, cefnogaeth neu gymorth yr ydych wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth baratoi ar gyfer Brexit?
  • Pa ystyriaethau ariannol sydd wedi codi o ganlyniad i’r ffaith fod y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a beth ddylid ei wneud i baratoi ar gyfer y rhain?
  • Pa gyngor neu gefnogaeth yr hoffech ei weld gan Lywodraeth Cymru a fydd yn eich helpu chi a'ch sector i baratoi ar gyfer Brexit?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau oedd dydd Gwener 3 Tachwedd 2017.

 

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565