Ymgynghoriad

Ymchwiliad i gyllid celfyddydau nad yw’n gyhoeddus

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnal ymchwiliad i gyllid celfyddydau nad yw’n gyhoeddus.

Cefndir

Mae'r mwyafrif helaeth o ddyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau yn mynd i Gyngor Celfyddydau Cymru: £31.2 miliwn o gyllid refeniw o'r £31.7 miliwn a ddyranwyd i'r maes hwn yng nghyllideb ddrafft 2017-18. Gwelwyd cynnydd o 3.5 y cant mewn cyllid refeniw yn y maes hwn, mewn termau arian parod, o gymharu â'r llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2016-17. Er gwaethaf y cynnydd hwn yng nghyllid Cyngor y Celfyddydau, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r Cyngor “gyflymu ei waith i helpu ei sefydliadau portffolio, a’r sector ehangach, i gynyddu’r incwm a gynhyrchir ganddynt".

Bydd ymchwiliad y Pwyllgor yn edrych ar lwyddiant sector y celfyddydau yng Nghymru o ran cynyddu ei gyllid nad yw'n gyhoeddus, dosbarthu arian celfyddydau nad yw’n gyhoeddus yng Nghymru a modelau rhyngwladol o arfer gorau y gallai Cymru ei efelychu yn hyn o beth.

Cylch Gorchwyl:

  • Effeithiolrwydd ymdrechion i gynyddu cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru gan gyrff gan gynnwys y Cyngor Celfyddydau, awdurdodau lleol ac artistiaid a sefydliadau celfyddydol eu hunain. Byddai'r cyllid hwn yn cynnwys:
    • incwm a enillwyd;
    • dyngarwch;
    • buddsoddiad.
  • Y lefel o gyllid heblaw cyllid cyhoeddus a ddosberthir yng Nghymru a sut mae hyn yn cymharu â gweddill y DU.
  • Enghreifftiau rhyngwladol o ddulliau arloesol i godi cyllid heblaw cyllid cyhoeddus.

 

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus o 28 Gorffennaf tan 25 Awst 2017. Bydd y Pwyllgor yn dechrau cymryd tystiolaeth lafar ar yr ymchwiliad hwn yn nhymor yr hydref.

Os hoffech drafod yr ymholiad hwn ymhellach, cysylltwch â’r Pwyllgor: SeneddDGCH@cynulliad.cymru

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565