Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y Bil Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 11 Ebrill 2017 a 15 Mai 2017.

 

Ymgynghoriad ar y Bil Diddymu Mawr a'i oblygiadau i Gymru – cwestiynau

1. Y Bil Diddymu Mawr a'r dull deddfwriaethol ehangach o ran Brexit

1.1 Beth yw eich barn chi ar agwedd Llywodraeth y DU at ddeddfu ar gyfer Brexit a'r goblygiadau y gallai hyn ei gael ar Gymru, datganoli a'r cydbwysedd o ran pwerau rhwng y Cynulliad a Gweinidogion Cymru?

2. Caniatau pwerau dirprwyedig

Mae paragraff 4.6 y Papur Gwyn yn nodi:

“Legislation that is within the competence of the devolved legislatures or ministers giving effect to EU law will also need to be amended as we leave the EU. We therefore propose that the Bill also gives the devolved ministers a power to amend devolved legislation to correct law that will no longer operate appropriately, in line with the power we propose should be held by UK ministers.”

Mae'r pŵer i roi pwerau dirprwyedig i Weinidogion y DU yn gorwedd gyda'r Senedd. Mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, y Cynulliad sy'n dal y pŵer i roi pwerau dirprwyedig i Weinidogion Cymru, er gall y Senedd hefyd roi'r pwerau hyn i Weinidogion Cymru.

2.1 Sut y gellid sicrhau wrth ddrafftio'r Bil Diddymu Mawr bod gan y Cynulliad ddigon o oruchwyliaeth dros bwerau sydd wedi eu dirprwyo i Weinidogion Cymru?

3. Craffu a rheoli pwerau dirprwyedig

Mae'r Papur Gwyn yn nodi amrywiaeth o gyfyngiadau sydd i'w gosod ar y pwerau dirprwyedig a roddir i Weinidogion y DU a, thrwy estyniad, Gweinidogion Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyfyngu ar y pwerau fel nad ydynt ar gael i'r Llywodraeth ar gyfer gwneud newidiadau polisi a chyfyngu amser y pwerau (gweler paragraffau 3.16 i 3.25).

 

3.1 A yw'r cyfyngiadau arfaethedig yn y Papur Gwyn yn ddigonol?

Mae'r Papur Gwyn yn cydnabod y bydd angen i'r Senedd fod yn fodlon bod y gweithdrefnau yn y Bil ar gyfer gwneud a chymeradwyo deddfwriaeth eilaidd yn briodol.

3.2 A ddylai'r Cynulliad fod yn rhydd i benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chymeradwyo deddfwriaeth eilaidd lle mae pwerau wedi'u dirprwyo i Weinidogion Cymru?

3.3 Os felly, sut y gall hyn gael ei adlewyrchu wrth ddrafftio'r Bil Diddymu Mawr?

3.4 Os ydy'r Cynulliad yn rhydd i benderfynu ar y gweithdrefnau ar gyfer gwneud a chymeradwyo deddfwriaeth eilaidd lle mae pwerau wedi'u dirprwyo i Weinidogion Cymru, pa weithdrefnau y dylid eu hystyried?

Mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi wedi awgrymu y gallai'r Senedd sefydlu mecanwaith didoli o fewn y Senedd sy'n ystyried a yw darn penodol o ddeddfwriaeth ddirprwyedig yn cynnwys penderfyniadau polisi a ddylai sbarduno ffordd well o graffu seneddol (gweler Pennod 3).

3.4 A ddylai'r Cynulliad ystyried mecanwaith didoli tebyg ar gyfer ystyried deddfwriaeth ddirprwyedig a gyflwynwyd o dan y Bil Diddymu Mawr?

3.5 Sut y gallai system o'r fath weithio yn ymarferol?

3.6 Pa ddarpariaeth, os unrhyw, y dylid ei wneud ar gyfer hyn yn y Bil Diddymu Mawr?

Mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi wedi awgrymu y dylai Gweinidogion roi gwybodaeth benodol yn y Memoranda Esboniadol sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol i gynorthwyo â'r broses craffu (gweler Pennod 3).

3.7 Pa wybodaeth ddylai fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnwys yn y memoranda esboniadol sy'n cyd-fynd ag offerynnau statudol a gyflwynwyd o dan y Bil Diddymu Mawr i ddangos bod y ddeddfwriaeth yn bodloni unrhyw gyfyngiadau ar bwerau?

3.8 A ddylai'r Cynulliad osod y gofynion hyn yn ei Reolau Sefydlog ei hun?

3.9 Os felly, sut y gallai/dylai hyn gael ei adlewyrchu wrth ddrafftio'r Bil Diddymu Mawr?

4. Ymgysylltu â rhanddeiliaid

4.1 Sut y gall y Cynulliad sicrhau bod gan bobl Cymru, rhanddeiliaid a sefydliadau ddigon o gyfle i gyfrannu at y prosesau deddfwriaethol y mae'r Bil yn eu sefydlu?

Rydym yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau eraill sydd gennych ar y dull deddfu o ran Brexit, rôl y Cynulliad a rôl Gweinidogion Cymru yn y broses.