Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol drafft Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad i lunio a gweithredu Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer pob Cynulliad. Craffodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar y cynllun drafft ar gyfer y pumed Cynulliad cyn iddo gael ei gyflwyno i’w gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ysgrifenedig am y cynllun drafft er mwyn llywio’r gwaith craffu hwn.

Tystiolaeth

Mae’r Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiwn graffu ar lafar gyda’r Aelod o Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol sy’n gyfrifol am Ieithoedd Swyddogol.

Gofynnodd y Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig gan:

  • Gomisiynydd y Gymraeg;
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg;
  • y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;
  • Dyfodol i’r Iaith;
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru;
  • Mentrau Iaith Cymru; ac
  • Undebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDGCh@@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565