Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 21 Tachwedd 2013 a Dydd Gwener, 17 Ionawr 2014
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r
Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal
ymchwiliad byr i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn helpu gyda’i
ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y canlynol:
- Y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Llywodraethu
sy'n ymwneud a llyfrgelloedd, a pha mor gynaliadwy yw unrhyw gynnydd yn yr
hinsawdd sydd ohoni;
- I ba raddau y mae'r
fframweithiau deddfwriaeth a pholisi presennol yn addas i ateb yr heriau
sy'n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd yng
Nghymru;
- Pa mor barod yw Llywodraeth
Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer lliniaru
effaith toriadau yn y sector cyhoeddus ar wasanaethau llyfrgelloedd;
- Opsiynau ar gyfer gwella
cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau llyfrgelloedd, gan gynnwys modelau
amgen ar gyfer eu darparu;
- Y rôl gyfoes a chymunedol sydd
gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.