Ymgynghoriad
Cyllido Addysg Uwch
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 8 Gorffennaf 2013 a Dydd Gwener, 25 Hydref 2013
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad
Diben yr ymchwiliad hwn yw rhoi ystyriaeth i gyllido
Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, i effaith ariannol polisi grant ffioedd
dysgu Llywodraeth Cymru ar sefydliadau addysg uwch a myfyrwyr yng Nghymru, a
gofyn, i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru’n darparu gwerth am arian yn y maes
hwn.
Nid yw’r polisi
cyllido Addysg Uwch rhan-amser yn dod i rym tan 2014, ac felly mae’r ymchwiliad
hwn yn canolbwyntio ar gyllido Addysg Uwch amser llawn.
Mae ein cylch gorchwyl yn cynnwys, yn fras, dair ffrwd incwm
ar gyfer cyllido sefydliadau addysg uwch, a rôl cyllid yn y dewisiadau a wneir
gan fyfyrwyr:
·
Ymchwil – Pa mor effeithiol yw sefydliadau
addysg uwch o ran sicrhau incwm ar gyfer gwaith ymchwil, gan gynnwys cyllid ar
gyfer gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch
Cymru.
·
Incwm a chymorth ar gyfer ffioedd dysgu - Pa
effaith ariannol a gaiff y polisi ffioedd dysgu newydd, a gyflwynwyd yn 2012,
sy’n caniatáu i sefydliadau addysg uwch godi hyd at £9,000 y flwyddyn ar
fyfyrwyr am gyrsiau addysg uwch, a beth yw goblygiadau ariannol grant ffioedd
dysgu Llywodraeth Cymru?
·
Cyfleoedd am incwm arall, neu fygythiadau eraill
i incwm - Pa mor bwysig i sefydliadau
addysg uwch yng Nghymru yw’r ffrwd o incwm o ffioedd dysgu a geir gan fyfyrwyr
sy’n hanu o’r tu allan i Gymru, gan gynnwys myfyrwyr tramor, a beth yw
canlyniadau ariannol newidiadau eraill yn y farchnad addysg uwch, yn awr neu yn
y dyfodol, gan gynnwys cyflwyno darparwyr preifat?
·
Dewisiadau i fyfyrwyr - Pa ystyriaethau ariannol
sydd gan fyfyrwyr pan fyddant yn penderfynu a ydynt am gael addysg uwch, a beth
yw effaith grantiau ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru ar ddewis yr unigolyn?
Mae dwy gyfres o gwestiynau yn yr ymgynghoriad – un sydd
wedi’i hanelu at sefydliadau ac un sydd wedi’i hanelu at fyfyrwyr a / neu eu
rhieni/warcheidwaid.
Bydd hefyd arolwg manwl i fyfyrwyr, y gellir ei lenwi gan
fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sydd ym mlynyddoedd 12 a 13, a myfyrwyr sy’n hanu o
Gymru sy’n astudio mewn sefydliadau addysg uwch ar hyn o bryd.
Atebwch y gyfres o gwestiynau sy’n fwyaf perthnasol i chi.
Dogfennau ategol