Ymgynghoriad

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Mick Antoniw AC. Roedd Mick Antoniw AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 21 Mawrth 2012. Cafodd ganiatâd gan y Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Fil ar 16 Mai 2012. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi ailgyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Gwybodaeth am y Bil

Diben y Bil yw galluogi Gweinidogion Cymru i adennill oddi wrth ddigolledwr (sef person sy’n gwneud taliadau digolledu neu sy’n eu gwneud ar ei ran, i neu ar gyfer dioddefwr clefyd sy’n ymwneud ag asbestos), gostau penodol sy’n dod i ran y GIG yng Nghymru wrth ddarparu gofal a thriniaeth ar gyfer dioddefwr y clefyd sy’n ymwneud ag asbestos.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Steve George