Ymgynghoriad

Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Diben yr ymgynghoriad

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi trosglwyddo'r Bil i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Y Bil

Nod y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yw cynyddu nifer yr organau a'r meinweoedd sydd ar gael at ddibenion trawsblannu, gan gyflwyno system feddal o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd yng Nghymru.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Sarah Beasley