Ymgynghoriad
Ymgynghoriad ar y Cod Ymddygiad a Gweithdrefnau Cysylltiedig
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 14 Rhagfyr 2020 a Dydd Gwener, 22 Ionawr 2021
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 1. Sir David Lewis (Saesneg yn unig) PDF 51 KB
- 2. Public Affairs Cymru (Saesneg yn unig) PDF 56 KB
- 3. Chair of the Committee on Standards in Public Life (Seasneg yn unig) PDF 36 KB
- 4. Good Governance Institute (Saesneg yn unig) PDF 285 KB
- 5. FDA Cymru PDF 176 KB
- 6. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 140 KB
- 7. PCS UK PDF 140 KB
- 8. Comisiynydd Safonau Dros Dro PDF 141 KB
Diben yr ymgynghoriad
Y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad – Ymgynghoriad
ar y Cod Ymddygiad a Gweithdrefnau Cysylltiedig
Dogfen sy’n
nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Aelodau o’r Senedd yw’r Cod
Ymddygiad. Mae ganddo awdurdod statudol o dan y ddeddfwriaeth a sefydlodd y
Comisiynydd Safonau annibynnol. Gall Aelodau y cafwyd nad ydynt wedi cadw at y
Cod fod yn destun adroddiad i’r Comisiynydd Safonau annibynnol. Bydd y Comisiynydd
yn ystyried cwynion o’r fath, a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor
Safonau Ymddygiad os ystyrir bod y Cod wedi cael ei dorri.
Ar sail ein
gwaith hyd yma, rydym wedi drafftio Cod diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus ehangach.
Wrth
ail-ddrafftio’r Cod, rydym wedi ceisio:
- darparu mwy o eglurder o ran y safonau a
ddisgwylir gan yr Aelodau;
- alinio’n well â’r Polisi Urddas a Pharch a
fabwysiadwyd gan y Senedd ym mis Mai 2018.
Derbyniwyd ymatebion
hyd at ddydd Gwener 22 Ionawr 2021.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y
sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran
datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddSafonau@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565