Ymgynghoriad

Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cynnal ymchwiliad, sef Gwneud i Gyfiawnder weithio yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cynnal ei ymchwiliad mewn dwy ran a byddai'n croesawu safbwyntiau sy'n berthnasol i'r cylch gorchwyl:

 

Rhan 1 - Canfod y ffeithiau ac edrych tua’r dyfodol

  • Nodi a mapio cyfrifoldebau a swyddogaethau presennol y Senedd a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chraffu ar faterion cyfiawnder.
  • Nodi ac adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer ariannu materion cyfiawnder y mae’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt eisoes.
  • Ystyried y modd y caiff swyddogaethau cyfiawnder presennol eu gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys polisïau Llywodraeth Cymru mewn meysydd datganoledig a’r modd y maent yn rhyngweithio â’r system gweinyddu cyfiawnder; 
  • Ystyried effaith y berthynas rhwng cymhwysedd y DU a Chymru ar faterion cyfiawnder penodol a nodi’r meysydd sy’n peri pryder;
  • Ystyried sut y gallai’r Senedd fod yn fwy rhagweithiol wrth graffu ar gyfiawnder, gan gynnwys sut y gallai cyrff cyfiawnder ymgysylltu â’r Senedd. 

 

Rhan 2 - Dadansoddi sut y gallai'r system gyfiawnder weithredu'n fwy effeithiol yng Nghymru

  • Gan ddefnyddio canlyniadau Rhan 1, archwilio unrhyw feysydd sy’n peri pryder o ran y cydbwysedd rhwng pwerau cyfiawnder ac, yn unol â hynny, a ellid defnyddio dulliau mwy cydlynol a chydgysylltiedig o ddatblygu polisi cyfiawnder; 
  • Ystyried goblygiadau a chanlyniadau unrhyw gynnig posibl i ddatganoli cyfiawnder a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;
  • Dysgu oddi wrth y modd y mae’r DU a deddfwrfeydd eraill yn craffu ar gyfiawnder.

 

Croesewir cyfraniadau i’r ymchwiliad erbyn 4 Mehefin 2020.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddDCC@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565