Ymgynghoriad
Tasglu’r Cymoedd
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 26 Chwefror 2020 a Dydd Iau, 9 Ebrill 2020
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 01. Purple Shoots (Saesneg yn unig) PDF 69 KB Gweld fel HTML (1) 18 KB
- 02. Industrial Communities Alliance (Wales) (Saesneg yn unig) PDF 489 KB Gweld fel HTML (2) 34 KB
- 03. Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru (Saesneg yn unig) PDF 928 KB
- 04. Simply Do Ideas (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- 05. Bevan Foundation (Saesneg yn unig) PDF 683 KB Gweld fel HTML (5) 42 KB
- 06. Colegau Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1016 KB
Diben yr ymgynghoriad
Byddai'r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
yn croesawu cael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir
â hwy yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:
- I ba raddau y mae Tasglu'r Cymoedd o fudd i
gymunedau'r Cymoedd?
- A yw mentrau polisi penodol y Tasglu yn
sicrhau canlyniadau llwyddiannus a fydd yn helpu i greu twf cynaliadwy a
lleihau tlodi?
- A yw'r Tasglu'n targedu ei weithgareddau a'i
brosiectau mewn rhannau o'r Cymoedd y mae arnynt eu hangen fwyaf?
- Ym mis Gorffennaf 2019 nododd
Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y byddai'r Tasglu'n
canolbwyntio ar saith maes blaenoriaeth ac estynnwyd ardal y Tasglu i
gynnwys Cwm Gwendraeth a Chwm Aman. Beth fu effaith y newidiadau i
flaenoriaethau'r Tasglu? A yw hyn wedi gwneud y Tasglu yn fwy neu'n llai
effeithiol?
- Pa mor dda y mae'r Tasglu yn gweithio gyda
mentrau eraill i ddatblygu’r economi yn y Cymoedd, a hynny gan ychwanegu
gwerth atynt?
- I ba raddau y mae'r Tasglu wedi ystyried
cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ei ffrydiau gwaith, ac a ydych yn fodlon
ar y dull o fesur canlyniadau?
- Pa ddulliau posibl y gallai Llywodraeth Cymru
eu defnyddio yn ei strategaeth economaidd arfaethedig ar gyfer Blaenau’r
Cymoedd, a pha gamau neu bolisïau penodol y dylid eu cynnwys yn hyn?
- Pa fesurau tymor byr ychwanegol y gellid eu
mabwysiadu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gymunedau'r Cymoedd cyn i'r
Tasglu ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2021?
- Sut y dylid bwrw ymlaen â gwaith y Tasglu ar
ôl iddo ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2021? Pa ffrydiau gwaith y dylai
Llywodraeth Cymru eu blaenoriaethu, ac i ba raddau y mae angen iddi newid
ei dull o weithio?
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno barn i'r ymarfer hwn 9 Ebrill 2020
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth
cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565