Yn ei gyfarfod ar 4 Gorffennaf, cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei drydedd sesiwn i drafod ail ran yr adolygiad o’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae’r rhan hon o’r adolygiad yn canolbwyntio ar benodau’r Penderfyniad sy’n ymdrin â’r gefnogaeth a roddir i Aelodau’r Cynulliad a’r pleidiau gwleidyddol.
Mae’r Bwrdd wedi nodi nifer o feysydd yn y penodau hyn lle mae o’r farn y gallai fod angen gwneud newidiadau. Mae’r Bwrdd hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar gynigion i newid rhai o reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau. Ceir manylion llawn am gynigion y Bwrdd yn y ddogfen ymgynghori.
Cylch gorchwyl
Yn ei adroddiad strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:
Darparu tystiolaeth ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae’r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno’n unig.
Mae’r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio’ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r llythyr ymgynghori.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw dydd Gwener 11 Hydref 2019. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Dogfennau ategol