Ymgynghoriad

Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad: Ymgynghoriad ar rhan un o’r adolygiad

Diben yr ymgynghoriad

Yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth, cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei drydedd ystyriaeth o ran gyntaf ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad. Mae'r rhan hon yn canolbwyntio ar y penodau yn y Penderfyniad ynghylch Gwariant ar Lety Preswyl, Siwrneiau'r Aelodau a Chostau Swyddfa.

Mae'r Bwrdd wedi nodi nifer o feysydd yn y penodau hyn lle mae o'r farn y gall fod angen newidiadau i'r darpariaethau presennol. Ceir manylion llawn am gynigion y Bwrdd yn y ddogfen ymgynghori.

Cylch gorchwyl

Yn ei adroddiad ar y strategaeth ar gyfer 2016-2021, amlinellodd y Bwrdd Taliadau ei ymrwymiad i gyhoeddi ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad flwyddyn cyn etholiad cyffredinol Cymru yn 2021. Mmae'r Bwrdd wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer yr adolygiad:

-        addasrwydd lefel y gefnogaeth a ddarperir yn y Penderfyniad;

-        hyblygrwydd, rhagnodoldeb a hygyrchedd y darpariaethau;

-        gonestrwydd, atebolrwydd, rhesymoldeb a thryloywder y gwariant sydd ar gael.

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio'ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r llythyr ymgynghori.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw dydd Gwener 7 Mehefin 2019. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565