Ymgynghoriad
Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 8 Mawrth 2019 a Dydd Gwener, 3 Mai 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- HEA 01 Y Coleg Merthyr Tudful (Saesneg yn unig) PDF 75 KB Gweld fel HTML (1) 6 KB
- HEA 02 Coleg y Cymoedd (Saesneg yn unig) PDF 84 KB Gweld fel HTML (2) 10 KB
- HEA 03 Estyn (Saesneg yn unig) PDF 143 KB Gweld fel HTML (3) 24 KB
- HEA 04 NUS Wales (Saesneg yn unig) PDF 224 KB
- HEA 05 Prifysgolion Cymru (Saesneg yn unig) PDF 210 KB Gweld fel HTML (5) 72 KB
- HEA 06 Coleg Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn unig) PDF 103 KB Gweld fel HTML (6) 9 KB
- HEA 07 Prifysgol De Cymru (Saesneg yn unig) PDF 177 KB Gweld fel HTML (7) 23 KB
- HEA 08 Prifysgol Caerdydd PDF 461 KB Gweld fel HTML (8) 69 KB
- HEA 09 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru PDF 290 KB Gweld fel HTML (9) 54 KB
- HEA 10 Undeb Prifsgol a Choleg Cymru (Saesneg yn unig) PDF 122 KB Gweld fel HTML (10) 19 KB
- HEA 11 Comisiynydd y Gymraeg PDF 169 KB Gweld fel HTML (11) 28 KB
- HEA 12 UNISON Cymru (Saesneg yn unig) PDF 165 KB Gweld fel HTML (12) 18 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru
waith craffu ôl-ddeddfwriaethol byr a phenodol ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru)
2015.
Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol bod y gwaith ar ddiwygiadau
arfaethedig Addysg, Hyfforddiant ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) Llywodraeth
Cymru wedi datblygu'n dda. Roedd yn awyddus, felly, i ddeall pa mor dda yr oedd
Deddf 2015 yn gweithio, a pha wersi y gellid eu dysgu o'r Ddeddf, cyn cyflwyno unrhyw
ddeddfwriaeth newydd. Croesawodd y Pwyllgor safbwyntiau a thystiolaeth ar y
canlynol:
1.
A yw'r Ddeddf wedi, neu a yw'n, cyflawni ei hamcanion
polisi, ac os na, pam?
2.
Pa mor dda y mae trefniadau cyffredinol y Ddeddf yn gweithio'n
ymarferol, gan gynnwys unrhyw gamau y mae eich sefydliad wedi gorfodi eu cymryd
dan y Ddeddf?
3.
A yw costau'r Ddeddf, neu gostau eich sefydliad eich hun
ar gyfer camau a gymerwyd o dan y Ddeddf, yn unol â'r hyn y dywedodd
Llywodraeth Cymru y byddant?
4.
A yw'r Ddeddf wedi cyflawni gwerth am arian?
5.
A fu unrhyw ganlyniadau anfwriadol neu negyddol yn sgil y
Ddeddf?
6.
A oes unrhyw wersi i'w dysgu o'r Ddeddf a sut y mae'n
gweithio'n ymarferol a allai fod yn berthnasol i'r Bil Addysg, Hyfforddiant ac
Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) arfaethedig?
7.
A oes unrhyw wersi i'w dysgu o'r modd y paratowyd y
Ddeddf hon yn 2014/15 (ei llunio, ymgynghori arni, ei drafftio ac ati)?
*mae'r amcanion polisi a’r costau ar gael ym Memorandwm
Esboniadol diwygiedig Llywodraeth Cymru a oedd yn cefnogi’r broses o
basio'r Bil drwy'r Cynulliad Cenedlaethol.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565