Ymgynghoriad

Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn croesawu'ch sylwadau ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal yng Nghymru.

Cylch gorchwyl

Mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am dystiolaeth i ddangos a yw gwasanaethau nyrsio cymunedol yn debygol o fod â rhan amlycach yn y gwasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • A oes gennym ddarlun clir o'r gweithlu nyrsio ardal a nyrsio cymunedol yng Nghymru, ac o faint yr angen sydd am wasanaethau nyrsio cymunedol (gan gynnwys yr angen a fydd yn y dyfodol). A oes gennym y sail dystiolaeth i ganiatáu i ni gynllunio’r gweithlu’n effeithiol.
  • A oes strategaeth glir, yn genedlaethol ac yn lleol, i bennu trywydd y gwasanaethau nyrsio cymunedol dan arweiniad nyrsys bro. I ba raddau y mae hyn yn cyd-fynd â’r gwaith o ddatblygu gofal sylfaenol ar sail model y clwstwr er enghraifft, ac yn cyd-fynd hefyd â’r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal a nodir yn Cymru Iach.
  • I ba raddau y gall timau nyrsio cymunedol weithio’n effeithiol gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol ac asiantaethau (gan gynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, gwasanaethau gofal cymdeithasol, a'r sector gwirfoddol) i ddarparu gofal di-dor, sy'n canolbwyntio ar y person.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 8 Mawrth 2019.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565